Yn Ein Cân, Ein Stori, mae Music Theatre Wales yn cyflwyno casgliad o weithiau newydd sy’n edrych yn ôl at y gorffennol ac ymlaen at y dyfodol, gan gynnwys:
- Gweithiau byr newydd gan gyfansoddwyr ifanc o Gymru, 14–18 oed, a ddatblygwyd mewn gweithdai yn y Parc a’r Dâr ac sy’n cael eu perfformio gan Sinfonia Cymru
- Dangosiad cyntaf o Opera Dditectif Ddigidol newydd sbon, arddull Ffilm Noir, wedi’i greu gan bobl ifanc 16–25 oed ac wedi’i ffilmio y tu ôl i’r llenni ac o amgylch coridorau’r Parc a’r Dâr
Yn ogystal, bydd dau waith newydd gan y cyfansoddwr Cymreig Luke Lewis wedi’u hysbrydoli gan leisiau lleol:
- Quiet Thoughts / Myfyrdodau Tawel – ffilm newydd gan Harriet Fleuriot sy’n rhoi llais i fenywod lleol
- The Echoes Return Slow – gwaith sy’n cyfuno lleisiau pwerus y gorffennol o’r ffilm Women of the Rhondda (1971) gyda chyfweliadau â glowyr lleol a recordiwyd yn Sefydliad y Gweithwyr (sef y Parc a’r Dâr heddiw) gan Alan Lomax yn 1953 wrth iddo deithio’r byd yn cofnodi cerddoriaeth a thraddodiadau gwerin. Yn wreiddiol yn rhan o raglen Writing the Future London Sinfonietta.
Bydd gwaith Luke Lewis yn cael ei berfformio gan Sinfonia Cymru, dan arweiniad Iwan Teifion Davies, gyda ffilm a thâp sain, ac ynghyd â cherdd newydd gan Owen Sheers, a grëwyd ar y cyd â, ac y bydd yn cael ei ddarllen gan, Kyle Stead.
Noson i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi bod, ac i ddathlu’r creadigrwydd sydd eto i ddod.
Compere – Samuel Bees.
Ein Cân, Ein Stori
Theatr y Parc a’r Dâr, Treorci
Nos Iau 11 Medi am 7.30pm
Am docynnau cliciwch YMA
Cyn y perfformiad, bydd Music Theatre Wales hefyd yn cynnal digwyddiad trafod yn Llyfrgell Treorci – Yr Artist a’r Archif.
Bydd y drafodaeth yn dechrau am 5yh, wedi’i chynnal gan banel o artistiaid, ac yna cinio ysgafn i ddilyn.
Cliciwch YMA am ragor o wybodaeth.
Gwnaed yn bosib gyda chyllid gan:
Colwinston Charitable Trust, The D’Oyly Carte Charitable Trust, Gwendoline and Margaret Davies Charity, Samuel Gardner Memorial Trust, Hodge Foundation, The Radcliffe Trust, New College, Oxford, Garfield Weston Foundation, a Chyngor Celfyddydau Cymru.