Bwriad ‘Llais y Lle’ yw cefnogi unigolion creadigol i weithio gyda chymuned benodol er mwyn datblygu defnydd a pherchnogaeth y Gymraeg.

Mae'r gronfa ar gael i unigolion, neu griw o bobl, sy'n frwd dros yr Iaith a sydd â phrofiad o weithio'n greadigol gyda chymunedau gan ddefnyddio’r Gymraeg. Bydd gofyn i ymgeiswyr feddwl am gyflwyno prosiectau sy’n rhoi lle canolog i’r Iaith ac sydd am weithio gyda’r gymuned.

Bydd modd cyflwyno ceisiadau i’r gronfa rhwng 11 Ionawr 2023 a 8 Chwefror 2023. Mae aelodau’r panel penderfynu yn medru’r Gymraeg ac mae Cyngor y Celfyddydau yn annog ymgeiswyr i gyflwyno eu cais trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae manylion ymgeisio ar gael yma: https://arts.wales/cy/llais-y-lle

Bydd Ysgogydd y Gymraeg, Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnal sesiynau gwybodaeth ynglŷn â’r gronfa ar 16 Ionawr 2023 am 2yp a 6yh. Gellir cadw lle yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/489381592517

Gwnaed Llais y Lle yn bosib diolch i haelioni chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.