Mae’r storïwr Michael Harvey wedi lawnsio cwmni newydd BANDO! fydd yn hybu chwedleua fel celfyddyd a’i gyd-plethu gyda chelfyddydau eraill, heb gyfyngiadau na rhwystrau.

Mae BANDO! yn teimlo’n angerddol dros adrodd a chreu straeon, perfformiadau a phrosiectau dwyieithog sydd yn plethu chwedlau, gwaith corff, cerddoriaeth, gofod a gwaith byrfyfyr.

Bydd BANDO! (enw a ysbrydolwyd gan y gêm wyllt ‘Bando’ oedd yn debyg i hoci a chwaraewyd ym Morgannwg tan 1876) yn gwmni sydd yn cefnogi prosiectau blaengar a dewr ac yn cefnogi cyfleoedd i artistiaid gyd-weithio gan ymledu apêl ac amrywiaeth chwedleua a gosod seiliau cadarn ar gyfer y dyfodol.

Mae gan Michael Harvey dros ugain o flynyddoedd o brofiad fel storïwr, arweinydd gweithdai a chyfarwyddwr ym maes y chwedl. Mae wedi teithio drwy Gymru gyfan ac yn rhyngwladol ac enillodd Wobr Fawr Cymru Creadigol yn 2011. Wrth greu a pherfformio blaenwelediad Y Llyn yng Ngŵyl Chwedleua Beyond the Border yn 2021 sylweddolodd bod galw am berfformiadau oedd yn cydblethu Cymraeg, Saesneg, gwaith corff a cherddoriaeth. Pan roddwn ni’r cyfan at ei gilydd cawson ni syndod gan ymateb twymgalon a brwd y gynulleidfa a’r galw am ragor o sioeau fel hyn.

Pan greon ni’r Llyn yn 2022 ro’n i’n gwybod, wrth weithio gyda Stacey Blythe, bod chwedleua a cherddoriaeth yn cyd-fynd. Ro’n i’n gwybod yn barod bod adrodd yn y Gymraeg a Saesneg gyda'i gilydd yn gweithio’n dda ac, ar ôl hyfforddi gydag Eeva-Maria Mutka, o’n i’n gwybod bod gwaith corff ac adrodd straeon yn gyfuniad deinamig a chryf.”

Bydd BANDO! yn archwilio cyfleoedd i weithio gydag a chefnogi pobl ddawnus a thalentog. Byddwn yn ehangu’r cyfleoedd ar gyfer y rhai sy’n creu straeon ac yn creu a pherfformio yn ddwyieithog gan ymestyn ar bosibiliadau crefft y chwedl. Rydyn ni eisiau creu cyd-destun heb reolau gan ymestyn a datblygu'r hyn allai chwedleua fod. Hoffwn greu lle heb reolau er mwyn creu straeon sydd yn mynd tu hwnt i ieithoedd, cyrff a meddyliau er mwyn cysylltu â chynulleidfaoedd a chyfranogwyr ledled Cymru a thu hwnt.

Taith Y Llyn  i 12 o theatrau a chanolfannau dros Cymru benbaladr fydd ein cynhyrchiad cyntaf sydd yn ail-ddychmygu hen chwedl Llyn y Fan Fach.

Michael Harvey, Cyfarwyddwr Artistig, BANDO!

Gwefan - https://www.bandowales.org/

Noddwyd Y Llyn a BANDO! gyda chymorth cronfa Cyngor Celfyddydau Cymru & Adverse Camber.