Gydag arian yn cael ei rannu ar gyfer prynu offerynnau newydd, amser recordio mewn stiwdios ac i gynhyrchu fideos, bydd gwobrau diweddaraf Launchpad yn helpu artistiaid newydd i ddatblygu eu cerddoriaeth a llywio'u gyrfaoedd.

Ers ei sefydlu yn 2014, mae cronfa Launchpad wedi buddsoddi £170,000 i gefnogi dros 170 o artistiaid o bob cwr o'r wlad. Mae Launchpad yn rhan o brosiect ‘Gorwelion’ BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru ac yn derbyn arian gan y Loteri Genedlaethol.

Eleni, gwelodd Launchpad gymysgedd amrywiol o geisiadau a chynnydd cadarnhaol gan artistiaid o gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli. Cynrychiolir cerddoriaeth ‘urban’, gwerin, sain, pop electronig, roc ac artistiaid ôl-pync gyda chymysgedd o artistiaid yn perfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Un prosiect arbennig sy’n cael ei ariannu eleni yw’r cerddor rhannol fyddar, Lucas J Rowe. Meddai Bethan Elfyn, rheolwr prosiect gorwelion, BBC Cymru:

"Mae'n Lucas yn gwisgo teclynnau clywed. Gwnaeth gais i Launchpad i ariannu fideo cerddoriaeth sy'n cynnwys iaith arwyddion. Mae fideos ar gael gydag isdeitlau ond mae cael arwyddo drwy fideo yn brin iawn. Mae'n rhywbeth y mae Lucas yn teimlo'n angerddol yn ei gylch, ac mae cynnig dewis hwyliog amgen i bobl sydd fel Lucas, yn aml yn gallu teimlo ychydig ar y tu fas pan ddaw'n fater o ddilyn ein diwylliant cyfryngol. "

Daw prosiect cyffrous arall gan Denuo, o Abergele:

"Mae cyllid Launchpad yn golygu gallwn ni weithio gydag artistiaid gweledol Siapaneaidd talentog ar gyfer ymgyrch hyrwyddo ein halbwm newydd. Mae'r albwm wedi ei hysbrydoli gan Siapan, ac yn 2019 comisiynwyd Pennacky, gwneuthurwr ffilmiau o Tokyo, i greu fideo cerddoriaeth ar gyfer ein sengl "Lucid". Bydd yr arian yn golygu gallwn ni barhau i gydweithio ar dri fideo arall i hyrwyddo albwm.”

Melin Melyn oedd un o grwpiau’r flwyddyn yn 2019:

"Rydyn ni mor ddiolchgar i Gorwelion am eu cefnogaeth ariannol. Fe fydd yr arian yma’n gymaint o help i ni fedru mynd ati i recordio albwm gyntaf Melin Melyn! Diolch o galon"

Mae Telgate yn fand unigryw arall a safodd allan eleni:

"Rydym am gynhyrchu EP pedwar rhan fydd yn pwysleisio ein dyhead o gario’r fflam queer yn y sin gerddoriaeth genedlaethol fydd yn grymuso ac yn rhoi pwrpas i bobl LGBTQ + a gwrandawyr cerddoriaeth sy'n teimlo allan o le mewn cymdeithas a adeiladwyd ar anghydffurfiaeth."

Dywedodd Antwn Owen-Hicks, rheolwr portffolio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae'n wych gweithio mewn partneriaeth gyda BBC Cymru i wneud gwahaniaeth i ddatblygiad gyrfaoedd cerddorion yng Nghymru. Rydym yn falch iawn bod amrywiaeth y ceisiadau a gafwyd eleni yn golygu y gallwn gefnogi mwy o artistiaid o gymunedau sy'n cael eu tangynrychioli. Allwn ni ddim aros i weld datblygiad artistiaid Launchpad a chlywed eu cerddoriaeth dros y flwyddyn nesaf."

Am ragor o wybodaeth am Launchpad a sut i wneud cais yn ogystal â'r fenter gorwelion ehangach, ewch i wefan Launchpad bbc.co.uk/horizons

Dyma artistiaid llwyddiannus Launchpad:

Adwaith (offerynnau newydd); Ailsa Tully (amser stiwdio); Al Moses, (amser stiwdio a chomisiynu gwaith celf); Alffa, (amser stiwdio a recordio ym Mharis gydag Owain Ginsberg); Asha Jane (hyrwyddo cerddoriaeth newydd); Big Thing (fideo cerddoriaeth fyw & ffotograffiaeth); Blackelvis, (fideos cerddoriaeth); bloom! (recordio a cymysgu); Breichiau Hir (PR ar gyfer albwm); Chasing Shadows (recordio); Corey Austin (offer stiwdio); Cynefin (fideo cerddoriaeth fyw); DD Darillo (ymgyrch hyrwyddo genedlaethol); Dead Method (fideo cerddoriaeth, PR & ffotograffiaeth); Denuo (gwaith gydag arlunydd Japaneaidd); Dienw, (amser stiwdio); Endaf (lluniau a fideo set byw); GG Fearn  (fideo cerddoriaeth); HANA2K (cynhyrchu EP); Juice Menace (cynhyrchu fideo); Lucas J Rowe (fideo cerddoriaeth sy'n ymgorffori iaith arwyddion); Luke RV (cymysgu albwm, hyrwyddo a fideo); Lunar Bird (cerddoriaeth fideo, ymgyrch ar-lein, nwyddau); MACY (cynhyrchu a recordio stiwdio); Mantaraybryn, (amser stiwdio); Melin melyn (recordiad stiwdio); Natty Paynter (meddalwedd recordio); Noah Bouchard (amser recordio); Panig (amser ymarfer a stiwdio); Ffôn coch (yn gweithio gyda'r cynhyrchydd Steffan Pringle); Rosehip Teahouse (cynhyrchu fideo); Sonny Winnebago (cymysgedd peirianneg & mastering); Telgate (stiwdio a gweithgaredd ffotoshoot); Y Rotanas (recordiad stiwdio); TJ Roberts (gwaith PR); Y cledrau (amser stiwdio); YazMean (amser stiwdio); Ynys (recordiad stiwdio).