Mae Ystafelloedd Dosbarth Caerdydd Creadigol yn gyfres newydd o ddigwyddiadau sy’n galluogi pobl greadigol i ddatblygu sgiliau creadigol, mewn gweithdai grwpiau bach gyda hwylusydd profiadol. Gyda chymhorthdal gan Gaerdydd Creadigol, mae holl ddigwyddiadau Ystafelloedd Dosbarth yn £10 yn unig i fynychu.
Gwnewch 2024 y flwyddyn y byddwch chi'n ysgrifennu eich nofel o'r diwedd gyda'r digwyddiad Ystafell Ddosbarth cyntaf yn ein cyfres. Bydd yr awdur Tiffany Murray yn arwain sesiwn ar y thema 'Dechrau eich cofiant' ar Ddydd Mawrth 6 Chwefror rhwng 10:00 - 15:00.
Ydych chi eisiau ysgrifennu eich stori, neu stori deuluol mewn rhyw ffurf? Yna mae'r cwrs byr unigryw hwn ar eich cyfer chi. Dan arweiniad yr awdur Tiffany Murray, bydd y diwrnod yn seiliedig ar weithdai hwyliog ac agored, ac mae ar gyfer awduron o bob lefel. Os ydych chi eisiau ysgrifennu cofiant rhaid i chi ddefnyddio ffuglen i ddal sylw darllenydd, ac os ydych chi am ysgrifennu ffuglen yn seiliedig ar brofiad bywyd go iawn raid i chi archwilio'r straeon gan ddefnyddio'r sgiliau tebyg. Bydd Tiffany yn eich helpu i gael at eich straeon, fel y gallwch chi eu troi'n naratif. P'un a ydych am ysgrifennu i'w gyhoeddi neu i gael y straeon hyn i lawr ar bapur, bydd y diwrnod hwn yn agor eich creadigrwydd.
Cyhoeddir cofiant Tiffany Murray, My Family and Other Rock Stars gan Little Brown yn 2024. Mae ei nofelau Diamond Star Halo, Happy Accidents a Sugar Hall, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Wodehouse Bollinger ac wedi derbyn Gwobr Roger Deakin am ysgrifennu natur. Mae Tiffany wedi bod yn Gymrawd Ffuglen Gŵyl y Gelli, yn ysgolhaig Fulbright, ac yn Uwch Ddarlithydd. Mae ei chyfres, ‘Hulda’s Café’ ar gael ar BBC Radio 4.