Dewch aton ni i lansio ‘CASGLU’ – llecyn perllan gymuned wib mewn ymateb i fannau awyr agored angof yng Nghwm Aber, ar 16 Medi 2023, 10:00 – 17:00, ar hen safle Capel Noddfa rhwng y Stryd Fawr a Stryd Stanley, Senghenydd.

Dewch i’n helpu i ddathlu popeth sydd ynghlwm â pherllannau:
  • Gwasgu Afalau - Byddwn yn arddangos gwasgu afalau a gwneud sudd afalau blasus.  Dewch i gymryd rhan!  Os oes gennych chi ormodedd o afalau, cofiwch ddod â nhw i’ch canlyn fel y gallwn ni wneud mwy fyth!
  • Rhannu gormodedd/ffeirio planhigion - Os buoch chi’n tyfu cynnyrch o had neu’n clirio ac yn rhannu planhigion yn eich gardd, efallai bod gennych blanhigion dros ben heb unman i’w rhoi nhw neu ormodedd o gynnyrch na wyddoch chi ddim beth i’w wneud ag ef.  Dewch â’ch planhigion dros ben i’r digwyddiad gwib ar yr 16eg Medi a mynd â rhywbeth newydd ymaith i’ch canlyn i’ch gardd neu’ch rhewgell eich hun.
  • Creu map chwilota - Rhowch help llaw i greu map chwilota ar gyfer Cwm Aber drwy rannu’ch gwybodaeth am lefydd i chwilota am fwyd.
A llond gwlad at hynny!

Bydd y mewnosodyn yn aros ei le ar ôl y digwyddiad gwib tan ganol mis Hydref i Gymuned Cwm Aber gael blas arno.

Mae’r mewnosodyn cyhoeddus bywiog yma ar agor i bawb, yn creu llecyn chwareus gael i’r gymuned ddod at ei gilydd a chael hwyl, ar yr un pryd â rhoi yn yr amlwg gyfleoedd i gynhyrchu bwyd, casglu cymunedol a lles yng Ngwm Aber.

Dyluniwyd a chynhyrchwyd Casglu gan Amanda Spence a Rhian Thomas a gwirfoddolwyr o gymuned Cwm Aber i ISLIFAU – Ar Ein Rhiniog – menter ar y cyd rhwng y grŵp cymuned Islifau – Celfyddydau yng Nghwm Aber, Tîm Datblygu’r Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ac Addo.

Ariannir y fenter gan grant Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru, gyda chyllid dros ben a chefnogaeth mewn nwyddau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Rhwydwaith Llesiant Integredig Gwent a Chyngor Cymuned Cwm Aber.