Cafodd pobl ifanc o Elusen Aloud syrpreis bythgofiadwy ar ôl y Nadolig ar ddydd Iau, 9 Ionawr, wrth i'r eicon cerddorol Ed Sheeran lansio ei sefydliad newydd gyda thaith corwynt o Gaerdydd. Ymwelodd y seren ag Ysgol Uwchradd Fitzalan, Canolfan Ieuenctid Eastmoors yn Sblot, a'r prosiect ieuenctid Grassroots, gan adael llwybr o ysbrydoliaeth a chyffro y tu ôl iddo.
Ynghyd â'i bartner cyfansoddi a Llysgennad Aloud, Amy Wadge, ymddangosodd Ed yn ystod gwasanaeth Ysgol Uwchradd Fitzalan. Cafodd y seren dderbynfa llawn sgrechian a chymeradwyaeth gan fyfyrwyr cyn cael cyfle i ofyn cwestiynau iddo yn dilyn perfformiad o ddwy o'i ganeuon mwyaf adnabyddus, Thinking Out Loud a Shape of You.
Perfformiwyd y bechgyn Try Again, cân a ysgrifennwyd ar gyfer Aloud gan Amy Wadge. Gweithiodd Aloud gydag Ysgol Uwchradd Fitzalan ac Amy Wadge yn ystod prosiect cyfansoddi caneuon yn 2020.
Rhannodd un aelod OBA ei gyffro: "Wel roedden ni jyst yn canu ac yna daeth Ed Sheeran i mewn! Roedd yn gyfle gwych i Aloud ei roi inni." Ar ôl y perfformiad, rhoddodd Ed araith ysbrydoledig am ddyfalbarhau, gan ysgogi'r myfyrwyr i beidio byth â rhoi'r gorau i'w breuddwydion. "Oherwydd ei lwyddiant a'i fywyd a'i yrfa mae'n golygu mwy fyth clywed hyn ganddo!" Dywedodd aelod arall, "Roedd yn anhygoel cwrdd ag un o fy eilunod a rhannu fy ngherddoriaeth gydag ef. Mae'r profiad hwn wedi fy ysbrydoli i ddal ati."
Wrth siarad ag Ed cyn y perfformiad, dywedodd staff Aloud ei bod yn "hynod ddiddorol" clywed am ei brofiadau cerddorol cyntaf mewn côr, a sut helpodd hyn i lunio ei angerdd dros ganu a datblygu ei ddiddordeb mewn cyfansoddi.
Nododd yr ymweliad lansiad swyddogol Sefydliad Ed Sheeran, menter a gynlluniwyd i gefnogi addysg cerddoriaeth ieuenctid ledled y DU drwy wneud grantiau, codi ymwybyddiaeth, a meithrin cydweithrediadau. Wrth siarad am y sefydliad, dywedodd Ed: "Mae cerddoriaeth wastad wedi bod yn rym pwerus yn fy mywyd, ac rwyf am sicrhau bod pobl ifanc ym mhobman yn cael y cyfle i ddysgu, creu a thyfu trwy gerddoriaeth. Mae Sefydliad Ed Sheeran yn ymwneud â chwalu rhwystrau ac agor drysau i greadigrwydd."
Fel rhan o gamau gyntaf y sefydliad, derbyniwyd Elusen Aloud arian ynghyd a thri sefydliad arall yng Nghaerdydd. Diolchodd Craig Yates, Cyfarwyddwr Creadigol Elusen Aloud gan ddweud: "Rydym yn falch iawn o gael ein cefnogi gan Sefydliad Ed Sheeran, a fydd yn ein helpu i ddarparu ymarferion wythnosol am ddim i Only Boys Aloud yn Ne Cymru. Roedd hi'n hynod gyffrous i aelodau'r côr berfformio i eicon a cherddor o'r safon hon. Mae cynnig cyfleoedd cyffrous ac unigryw yn rhan o'n haddewid yn Aloud, felly mae profiad o'r raddfa hon yn arbennig iawn i'n haelodau."
Mae ymweliad annisgwyl Ed a lansiad y sefydliad eisoes wedi sbarduno cyffro a momentwm yn y sîn gerddoriaeth ieuenctid leol, gan gynnig dyfodol mwy disglair a cherddorol i dalentau ifanc.
I gael gwybod mwy am Only Boys Aloud, neu i gael gwybodaeth am sut i ymuno â'r côr yn 2025, ewch i https://www.aloud.cymru/cy/yr-hyn-a-wnawn/only-boys-aloud/