Diolch i Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, a Grant ‘Onion Bulb’ Cyngor Celfyddydau Bermuda, bydd y coreograffydd a’r awdur Krystal S. Lowe a’r gantores/cyfansoddwr caneuon a’r cynhyrchydd Kizzy Crawford yn adeiladu a dyfnhau’r cysylltiadau rhwng y sectorau celfyddydol yng Nghymru a Bermuda. 

Dan arweiniad Krystal S. Lowe a Kizzy Crawford yn partneru gydag Adran Ddiwylliant Llywodraeth Bermuda a Sefydliad Dawns Cenedlaethol Bermuda, bydd ‘The History of Us | Ein Hanes Ni’ yn ddathliad o brofiadau diwylliannol a rennir rhwng dwy genedl sydd filoedd o filltiroedd ar wahân. 

Dros gyfnod o wythnos, bydd Krystal a Kizzy yn ymgysylltu â dawnswyr, ysgrifenwyr, cerddorion ac artistiaid o Bermuda, ac aelodau o’r gymuned – gan drafod pa effaith a gaiff hunaniaeth ddiwylliannol ar eu mynegiant artistig. Byddant yn rhannu eu hamser rhwng cyfres o drafodaethau mewn lleoliadau ledled yr ynys, sesiynau symud wedi eu cynnal yn ‘MakerSpaces’ Adran Ddiwylliant Llywodraeth Bermuda (nifer o ofodau stiwdio am ddim ledled yr ynys at ddefnydd artistiaid), a sesiynau jamio rhwng Kizzy a cherddorion lleol. Ochr yn ochr â’r amser y byddant yn ei dreulio gydag artistiaid o Bermuda ac aelodau o’r cyhoedd, byddant hefyd yn ymweld ag amgueddfeydd, orielau, a digwyddiadau diwylliannol, ac yn teithio o amgylch y wlad. 

Mae History of Us | Ein Hanes Ni yn gyflawniad o brosiect ymchwil a datblygu (R&D) o’r un teitl a ariannwyd yn 2021 gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Bermuda Civic Ballet. Drwy gydol y prosiect R&D yn 2021, bu tîm o bum artist (o Bermuda a Chymru) yn arwain ei gilydd mewn deg sesiwn dawns (drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg) wedi’u canoli o gwmpas y cysylltiadau rhwng y celfyddydau a diwylliant, a sut yr oeddynt yn siapio eu datblygiad artistig. Y nod oedd rhannu’r cyferbyniadau tra hefyd yn amlygu’r hyn oedd yn gyffredin rhwng y profiadau o ddawns yn y ddau ddiwylliant. 

Darllenwch fwy am y prosiect R&D 2021 yma: https://krystalslowe.com/ein-hanes-ni

Os oes gan unrhyw Artistiaid o Bermuda – ysgrifenwyr, dawnswyr, cerddorion, artistiaid cain – ddiddordeb mewn ymgysylltu â’r prosiect hwn, mae croeso i chi gysylltu â Krystal ar krystalslowe.contact@gmail.com.