Jukebox Collective & Bleak Fabulous
Lansiad cylchgrawn ffasiwn ar 15 Rhagfyr
Mae Bleak Fabulous a Jukebox Collective yn lansio eu cyfres olygyddol a’u cylchgrawn sy’n archwilio treftadaeth Cymru fel y’i gwelir drwy lens greadigol pobl ifanc Caerdydd. Cafodd y lluniau eu tynnu yn ardal Tre-biwt a Bae Caerdydd, sy’n gartref i un o gymunedau Du hynaf y DU, ac mae’r prosiect yn dathlu Cymru gyfoes sy’n cysylltu traddodiad â hunaniaethau diwylliannol amrywiol.
Roedd y prosiect, dan arweiniad Charlotte James a Clémentine Schneidermann, yn cynnwys cyfres o weithdai creadigol gyda myfyrwyr o Academi Jukebox Collective, rhaglen sy’n cefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol Gymreig. Bu’r myfyrwyr, oedd rhwng 7 ac 16 oed ac o gefndiroedd Du a lleiafrifoedd ethnig yn bennaf, yn cymryd rhan mewn gweithdai ar ddylunio gwisgoedd, steilio, ffotograffiaeth, darlunio, a chyfarwyddyd celf. Bu’r sesiynau hyn yn gyfrwng i archwilio balchder a hunaniaeth Gymreig, a chafodd y myfyrwyr gyfle i feithrin sgiliau creadigol newydd e.e. creu byrddau awyrgylch, steilio, ac addasu, gan ddefnyddio eu treftadaeth fel canllaw mynegiant.
Roedd y prosiect a ysbrydolwyd gan yr het Gymreig eiconig, sy’n dyddio’n ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn defnyddio’r eiconograffeg genedlaethol hon fel man lansio creadigol. Cafodd y myfyrwyr fu’n gweithio gyda’r dylunydd gwisgoedd Cymreig Ffian Jones gymryd rhan mewn gweithdy creu hetiau, gan foderneiddio’r eitem draddodiadol trwy ei thrwytho â’u dylanwadau creadigol a diwylliannol unigryw. Ymgorfforwyd hefyd elfennau eraill o’r wisg genedlaethol Gymreig yn eu gwisgoedd, er enghraifft y clogyn o wlanen goch, y siôl bersli, a’r Bais a’r Betgwn.
Tynnodd Schneidermann luniau o’r gwisgoedd gorffenedig yn Nhre-biwt ac ym Mae Caerdydd, tra bu James yn goruchwylio'r cyfarwyddyd creadigol. Mae’r darluniau’n adlewyrchu natur chwareus hunanarchwiliad y cyfranogwyr, gan gyfuno dogfennaeth gymdeithasol, ffasiwn, a phortreadau ffurfiol. Cafodd lliwiau cyfoethog y gwisgoedd eu cyfosod yn erbyn llwyd a gwyn cynnil cartrefi Tre-biwt ac maent yn ein hatgoffa o’r hunaniaethau esblygol oddi mewn i’r cymunedau hyn: hen, amrywiol a llawn bywyd yn erbyn gorffennol ôl-ddiwydiannol a’r presennol sy’n datblygu.
---------------
Ymunwch â ni i rannu ein cylchgrawn cydweithredol gyda Bleak Fabulous (Clémentine Schneidermann a Charlotte James), yn cynnwys myfyrwyr Academi Jukebox.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys diodydd croeso, arddangosfa wedi’i churadu gan fyfyrwyr o’r ffotograffiaeth a byddwch yn mynd â chopi o’r cylchgrawn argraffiad cyfyngedig adref gyda chi.
4 - 6 PM, dydd Sul 15 Rhagfyr
Y Stiwdios Cynaliadwy, CF11 6AD
Anfonwch RSVP i Samandal@jukeboxcollective.com erbyn 13 Rhagfyr
---------------
Bleak Fabulous
Stiwdio greadigol sy’n seiliedig ar ffotograffiaeth yw Bleak Fabulous ac mae’n cyfuno gwaith ieuenctid, gweithdai creadigol, a ffotograffiaeth ddogfennol. Fe’i harweinir gan y ffotograffydd Ffrengig Clementine Schneidermann a’r cyfarwyddwr creadigol o Gymru, Charlotte James.
Maen nhw'n gweithio gydag artistiaid proffesiynol, cymunedau, a gweithwyr ieuenctid er mwyn cyflwyno gweithdai i bobl ifanc sy'n byw mewn ardaloedd sy’n derbyn rhy ychydig o arian. Mae'r gweithdai'n canolbwyntio ar greu gwisgoedd, ffotograffiaeth, dylunio setiau ac ysgrifennu creadigol. Mae’r gweithdai’n caniatáu i’r bobl ifanc gydweithio a bod yn rhan o’r broses creu darluniau yn ogystal â’u cyflwyno i sgiliau creadigol newydd.
Jukebox Collective
Cydweithfa gymunedol sy’n cael ei harwain gan bobl ifanc yw Jukebox ac mae’n meithrin lleisiau creadigol yr yfory. Mae eu Hacademi yn arbenigo mewn datblygu artistiaid trwy weithdai amlddisgyblaethol, mentora a sesiynau sy’n cynnig cipolwg ar y diwydiant creadigol.
Mae ganddynt hanes o ddatblygu talent a chreu gwaith creadigol sydd ar flaen y gad yn niwylliant Cymru. Mae eu portffolio eang wedi eu gweld yn partneru â sbardunwyr newid byd-eang, o Jamaica i Orllewin Affrica, a hynny trwy groestoriad o ddiwylliant ieuenctid, dawns, cerddoriaeth a mwy.