Meadowsweet Palisade yw'r arddangosfa gyntaf mewn oriel gyhoeddus gan yr artistiaid o Gymru, Jenő Davies a Iolo Walker, ac mae'n nodi dychweliad yr artistiaid i Gymru. Gan gyflwyno bricolage o gerfluniau, sain a ffilm, mae’n adlewyrchu grym y cyrion gwledig i greu gofodau ar gyfer adnewyddu a thrawsnewid.
Wedi'i dyfeisio ar y cyd gan Davies a Walker, mae'r ffilm Pinwydd wedi'i lleoli ym Machynlleth, cartref i lwybr hyfforddi awyrennau milwrol sy'n hedfan yn isel, sy’n cael ei alw’n ‘Mach Loop’. Mae’r ffilm yn adrodd stori Blod, awyren ymladd sydd wedi'i dal mewn cylch diddiwedd o ddinistr, wedi'i lleisio gan yr actores o Gymru Sue Jones Davies. Mae Blod yn cael ei saethu i lawr gan Oen, sef oen anarchaidd anthropomorffig, i ddial am ddinistrio ei ffrind Pin, ysbryd coedwig sy'n dal carbon. Yna mae Oen yn cael ei garcharu gan Mr. Candy, sef perchennog Blod a phensaer dinistr planedol.
Wedi'i wreiddio ym myd go iawn landlordiaeth, cwymp yr hinsawdd ac arferion echdynnu, mae Pinwydd yn tynnu ar themâu ffantasi a ffuglen wyddonol, ochr yn ochr â stori Blodeuwedd o’r Mabinogion, i chwalu’r anallu ymddangosiadol i ddianc rhag cyfalafiaeth. Gan ganolbwyntio ar gyfeillgarwch, cymhlethdodau aml-rywogaeth a'r tiroedd cyffredin sy'n bodoli, mae'n dod â bydoedd nad ydyn nhw’n fydoedd llwyr eto o fewn cyrraedd. Wedi’i chreu gan deulu, ffrindiau a chymdogion, mae Pinwydd yn ffilm DIY sy'n trafod grym gwrthsafiad a chymuned.
Mae’r artist yn parhau i greu bydoedd drwy gydol yr arddangosfa gan ddefnyddio cerfluniau, sain a brodweithiau. Yn West Wales Reclamation and Salvage gan Davies, mae casgliad o ddioramau bach a deunyddiau y daeth o hyd iddyn nhw yn cael eu gosod ar gert dros dro a wnaed allan o olwynion beic a dolenni wedi'u cerfio, sy'n teimlo'n rhannol fel pethau defnyddiol ac yn rhannol fel ffantasi; mae'n ffurfio archif deithiol o deyrnasoedd i'w harchwilio. Mae eu coeden goffaol, Watchtower, yn cyfeirio at goed cuddliw’r Rhyfel Byd Cyntaf. Gan dynnu ar iaith dyfeisiau a golygfeydd theatrig, mae'r cerflun yma’n cynnig lle i guddio wrth i chi gael eich gwahodd i fynd i mewn i'r goeden ac i edrych allan ar yr amgylchedd drwy’r perisgop. Mae Walker hefyd yn defnyddio ceubrennau, ac yn ystafell wely Katniss mae seinyddion gemau yn eistedd mewn cregyn ar lawr yr oriel ac yn dod yn gyfryngau i brosesu galar, gan rannu recordiadau maes, rhestrau chwarae a synau er cof am ffrind sydd wedi marw. Mae llithro rhwng bydoedd a chyrff yn atseinio ar draws gweithiau Walker, ac mae brodwaith llewyrchol yn darlunio manylion cerflun Rhufeinig o Hermaphroditus, sy’n cael ei ddisgrifio mewn mytholeg fel cymeriad nad yw'n perthyn i’r un o'r ddau ryw ond sydd eto’n perthyn i'r ddau ryw.
Mae'r sioe yn pontio pruddglwyf colled, mewnblygrwydd a chyflyrau yn y canol, gan chwedloni tirwedd gyfoes cefn gwlad y canolbarth i fyfyrio ar y gorffennol a beth sydd eto i ddod.
Comisiynwyd a chynhyrchwyd yr arddangosfa gan Chapter.