Oriel 1
21 Gorffennaf 2023 i 12 Tachwedd 2023 yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Mae Angharad Pearce Jones yn gweithio mewn dur ers dros 30 mlynedd ac yn ei sioe unigol fwyaf hyd hyn, mae hi’n ail-greu gosodiad a adeiladwyd yn wreiddiol yn ei chartref ei hun yn ystod y cyfnod clo.
Mae’r gwaith yn deillio o ganfyddiad yr artist o hollt mewn cymdeithas yn dilyn refferendwm Brexit 2016, a thra bod Angharad wedi’i swyno gan allu ei hoff ddeunydd i naill ai carcharu, rhannu neu amddiffyn, mae hi hefyd wedi’i swyno gan ei allu i blygu, ymestyn a chwalu, mewn cyfres o gerfluniau sy’n ail greu’n fanwl, enghreifftiau o drawiad.
Mae'r gweithiau celf achlysurol hyn yn ganlyniad o saith mlynedd o ddogfennu gatiau a rheiliau wedi plygu, pob un â'i naratif ei hun, na fydd ond y sawl a welodd y trawiad gwreddiol yn dyst iddo.