Gan fod ein sylw dros y misoedd diwethaf wedi bod ar y celfyddydau, iechyd a llesiant, rydym wrth ein bodd o fod wedi gallu cefnogi a rhannu sengl ddiweddaraf y cerddor electronig Kelly Lee Owens, ‘Corner of my Sky’.
Daw’r gân o’i halbwm ddiweddaraf Inner Song, sydd wedi derbyn canmoliaeth fawr, ac mae’n cynnwys llais John Cale, gyda Michael Sheen yn ymddangos yn y fideo. Gwelwn fod yr artistiaid a’r tirluniau sy’n cael eu cynnwys yn dangos fod dull Kelly o archwilio’r croesdoriad rhwng y celfyddydau ac iechyd yn pwyntio at weledigaeth o Gymru’r dyfodol, gyda llesiant a chreadigrwydd yn ganolog i’r Gymru honno.
Fel rhywun a arferai ddarparu gofal diwedd-oes i gleifion fel nyrs cancr, mae llesiant yn rhan o athroniaeth Kelly a’r gwaith mae hi’n ei greu. Fodd bynnag, nid yn unig y cynigir dihangfa a chyfle i fwynhau drwy gyfrwng ei gwaith, y mae’r broses o wellhad hefyd yn bwysig i Kelly. Mewn cyfweliad diweddar gyda chylchgrawn GQ, bu’n trafod sut y gall ein defnydd o sain helpu ein hiechyd. (1)
Y mae Kelly wedi estyn ei chefnogaeth i eraill sy’n ei chael hi’n anodd yn y cyfnod hwn drwy gyfrwng ei rhestr chwarae ‘Calm & Uplift’, sydd wedi ei greu ar gyfer gweithwyr y GIG a gweithwyr rheng flaen, ynghyd ag unrhywun arall y gall fod o gymorth iddynt. Y mae’r rhestr chwarae yn cynnig rhywfaint o dawelwch meddwl a chyfle i leddfu straen, ynghyd â chynnig cyfle i fynegi a rhyddhau emosiwn drwy gyfrwng cerddoriaeth. Cynlluniwyd y rhestr chwarae er mwyn cynnig ffordd amgen i ddechrau neu i gyfrannu at y broses o iachau.
Eglura Kelly yr hyn wnaeth ei chymell i greu’r rhestr chwarae: “Wedi imi weithio gyda’r GIG fel nyrs cynorthwyol, a nawr yn fy ngwaith fel cynhyrchydd/cerddor/artist – dwi wedi meddwl cryn dipyn ynglŷn â sut y mae’r byd celf a hunan-fynegiant yn cydgysylltu â’r byd lles. Sut mae un yn helpu’r llall. Dwi’n teimlo’n eithriadol o angerddol am iechyd a llesiant a’u cysylltiad â hunan-fynegiant creadigol.
Mae creu yn fodd o ymwared â straen sy’n dod â rhywun yn agosach at bwy ydyn nhw, dyma fan lle y gallwch ganfod cysur, man i allu gorffwys ac adfer – man sy’n eich cynnal drwy’r eiliadau tywyllaf a chaletaf, a man sy’n gallu cynnig llawenydd llwyr a di-ddiwedd! Dyma’r man yr wyf yn dymuno i bawb yng Nghymru gael mynediad ato, a phrofiad ohono, yn fwy aml.
Yn siarad ag NME yn ddiweddar, dywedodd Kelly ei bod yn gobeithio y bydd y rhestr chwarae yn “darparu gofod sonig i bobl gysylltu, i ddadweindio, i gael eu cofleidio, i deimlo’n ddiogel gan wybod bod un person yn meddwl amdanyn nhw ac yn gobeithio ac yn dymuno y gwnânt ganfod heddwch a’r gallu i ymlacio… Peth bach yw e, ond dwi’n credu mai peth semantig yw llawer o’r straen yr ydym yn teimlo, ac rydym yn storio hwn ein corff. A dwi’n credu bod sŵn yn gallu cael effaith trawsnewidiol go iawn ar ein corff a’n seici. Dwi wir yn meddwl bod gan gerddoriaeth y pŵer i wneud hynny. (2)
Gwelwyd sawl enghraifft o greadigrwydd yn cael ei ddefnyddio er lles iechyd a bodlonrwydd dros y chwe mis diwethaf mewn ymateb uniongyrchol i COVID-19, wrth i bobl greu, mwynhau a gwerthfawrogi celfyddyd. Rydym hefyd wedi gweld y rhybuddion garw am effaith hirdymor y pandemig ar ein hiechyd meddwl, a fynegwyd mewn erthygl diweddar arall ar ein gwefan; Lles Meddyliol a Chelfyddydau Cyfranogol ar Adegau o Newid Cyflym.
Wedi iddyn nhw arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth, mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth agos dros y 3 mlynedd diwethaf er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r buddiannau iechyd a lles sy’n dod o ymgymryd â gweithgareddau creadigol. Trwy gyfrwng y Grŵp Traws-Bleidiol ar y Celfyddydau ac Iechyd, maen nhw wedi uwcholeuo esiamplau o sut y gall y celfyddydau helpu i daclo unigrwydd ac ynysu, cefnogi iechyd meddyliol pobl, a chyfrannu at heneiddio iachus. Yn ogystal, mae Cyngor y Celfyddydau wedi cefnogi swyddi Cydlynydd Celfyddydau ac Iechyd ym mhob Bwrdd Iechyd ledled Cymru, er mwyn gwella dealltwriaeth, ac ymateb yn greadigol, i rai o’r heriau iechyd mwyaf sy’n ein hwynebu fel cenedl. Mae Covid 19 wedi dod â’r gwaith hwn fwyfwy i’r amlwg wrth i bobl a chymunedau droi at weithgareddau creadigol fel ffynhonnell hanfodol o fwynhad, cysylltiad, cysur ac ystyr.
Ychwanegodd Kelly “Dwi mor falch fod llesiant ac iechyd meddwl yn benodol yn cael eu blaenoriaethu yng Nghymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Conffederasiwn y GIG a Llywodraeth Cymru. Mae’r gwaith arloesol hwn o ddiddordeb byd-eang, nid yn unig yn ystod pandemig ond hefyd er mwyn meithrin gwytnwch cenedlaethau’r dyfodol.”
Wele restr chwarae Calm & Uplift Kelly i weithwyr y GIG a gweithwyr rheng flaen eraill, ynghyd ag unrhyw un arall sydd ei angen yn y cyfnod hwn:
https://open.spotify.com/playlist/2mRDLoxfX4P3DVw962aXyu?si=6On9bZOiR1WaxNcoqW8aBQ
(1) https://www.gq.com/story/kelly-lee-owens-healing-playlist
(2) https://www.nme.com/blogs/nme-radar/kelly-lee-owens-interview-inner-song-2740136
Dyma ddolenni i erthyglau eraill y gwnaethom eu rhannu yn ystod y flwyddyn yn ymwneud â defnyddio’r Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Llesiant:
Fearghus Ó Conchúir – Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: adfer y gorau, darganfod gwell
Tracy Breathnach Evans – Lles Meddyliol a Chelfyddydau Cyfranogol ar Adegau o Newid Cyflym
Ceir hefyd trafodaeth fideo rhwng Phil George a Fearghus Ó Conchúir ar ein sianel amam.cymru