Cyn bo hir byddwn yn chwilio am asiantaeth greadigol i ddatblygu a chyflwyno calendr digwyddiadau ‘Straeon Natur y Fro’ ar gyfer 2025. Nod y prosiect hwn yw dod â’n hamgylchedd naturiol yn fyw trwy adrodd straeon difyr a phrofiadau rhyngweithiol ar draws lleoliadau lluosog yn y Fro.
Cyfrifoldebau Allweddol:
• Datblygu'r cysyniad a'r amcanion
• Cynllunio, dylunio a chyflwyno cyfres o 15-20 o straeon wedi'u hysbrydoli gan fyd natur
• Creu rhaglen o ddigwyddiadau sy'n addas i deuluoedd
• Dylunio propiau rhyngweithiol yn seiliedig ar rywogaethau lleol
• Trefnu a chynnal hyd at 20 o ddigwyddiadau dros haf 2025
• Gwerthuso effaith a sicrhau etifeddiaeth barhaus
Byddwn yn gwahodd cynigion gan asiantaethau sydd ag arbenigedd mewn adrodd straeon creadigol, cynhyrchu digwyddiadau, ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd.
Diddordeb? Cysylltwch i gofrestru eich diddordeb ac i dderbyn y ddolen i'r cais am ddyfynbris unwaith iddo fynd yn fyw. Cysylltwch â ni ar nhollins@valeofglamorgan.gov.uk.