Hoffech chi ddatblygu eich sgiliau gwerthuso fel y gallwch ddeall a chyfleu effaith eich gwaith yn well?

Ynghyd â Phrifysgol Leeds, mae'r Centre for Cultural Value yn lansio cwrs newydd: “Evaluation for Arts, Culture and Heritage: Principles and Practice”.

Bydd y cwrs yn rhoi mewnwelediadau gan arbenigwyr ac yn eich helpu i ddatblygu dulliau newydd o werthuso.

Gallwch gofrestru nawr ar blatfform ar-lein FutureLearn, a bydd cynnwys y cwrs ar gael o ddydd Llun y 18fed o Fedi 2023. Am y pythefnos cyntaf, bydd arweinwyr modiwl wrth law i ymateb i gwestiynau trwy'r elfen sgwrsio.

Gall dysgwyr sydd wedi cofrestru hefyd ymuno â gweithdy myfyrio ar-lein rhad ac am ddim ar ddydd Iau y 19eg o Hydref wedi'i gynnal gan arweinwyr cwrs ac sy'n archwilio cwestiynau allweddol am werthuso.