Rhagfyr 7
6yp- 9yp
Parc Arts, 2 Princess Street Trefforest CF37 1RY
Oes gennych chi syniad gwych ar gyfer perfformiad? Ydych chi mewn dryswch ynglŷn â beth yw’r camau nesaf? Hoffech chi wybod sut i wneud bywoliaeth o’ch celfyddyd?
Ymunwch â Holm, chwmni theatr o Drefforest sydd wedi ennill sawl gwobr, ar gyfer gweithdy sy’n rhoi blas ar hunan-gynhyrchu. Yn seiliedig ar dros ddegawd o brofiad yn arwain rhaglenni datblygu artistiaid mewn ysgolion drama a phrifysgolion, mae cyfarwyddwr Holm, Jesse Briton, a’r cynhyrchydd, Anthony Kosky, yn arwain gweithdy hygyrch, gafaelgar a rhyngweithiol sy’n symleiddio’r broses o sut mae syniad yn symud o’r tudalen i’r llwyfan.
Addas i bob math o artistiaid perfformio.
Mae Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn brosiect aml-randdeiliad a arweinir gan Ganolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd. Mae’n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu rhwydweithiau a gweithgareddau creadigol ar lawr gwlad.