Profiad sinema trochol a chyffrous sy’n cysylltu cyfres o gerddoriaeth newydd Gamelan â ffilm gyffro fud Hitchcock. 

Mae Actifyddion Artistig yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Memo i gyflwyno’r digwyddiad sinema unigryw ac arloesol yma, sy’n cyfuno cyfeiliant cerddoriaeth FYW gan ddefnyddio Gamelan Jafanaidd gyda ffilm fud glasurol ‘The Lodger: A Story of the London Fog’, a ryddhawyd 97 mlynedd yn ôl ar y dyddiad yma, Dydd San Ffolant, 1927.

Mae ffilm fud Alfred Hitchock yn adrodd stori llawn cynllwyn ac ansicrwydd, mae’n ffilm gyffro fyrlymus sy’n ffynnu ar euogrwydd ar gam, arwr amheus a menyw mewn perygl. Dewiswyd y ffilm nid yn unig am ei naratif afaelgar, ond am ei chysylltiad pwysig â Chymru drwy’r cerddor, cyfansoddwr, ac actor o Gymru, Ivor Novello, sydd wedi creu gwaddol ym myd cerddoriaeth hyd heddiw, drwy’r Gwobrau Novello. 

Mae Gamelan Neuadd Dewi Sant yn gyfres hyfryd o offerynnau, ac yn ased gwerthfawr ac annwyl i lawer. Mae Actifyddion Artistig yn ymroddedig i sicrhau bod cyfleoedd i glywed a chwarae’r Gamelan yn parhau i fod ar gael i’r gynulleidfa ehangaf bosib. Mae’n arbennig o bwysig i gymuned o chwaraewyr Gamelan Caerdydd allu rhannu’r darn yma o waith newydd cyffrous. Bryony Harris, Rheolwr Cymunedau, Dysgu a Phartneriaethau, Actifyddion Artistig.

Esblygodd y cysyniad tu ôl i ddatblygu’r profiad sinematig dilys yma gyda cherddorion Gamelan cymunedol Caerdydd yn ystod Covid, lle roedd y cyfansoddwr a’r animateur Helen Woods yn arbrofi â ffyrdd o gyfansoddi ar gyfer Gamelan gan ddefnyddio’r cyfryngau digidol. Yn dilyn sgyrsiau am y Gamelan a diwylliant Indonesia, adrodd straeon, a thraddodiad perfformio Wayang (pypedwaith), yn ogystal â chelfyddyd cyfeiliant byw sydd wedi’i chysylltu’n draddodiadol â ffilmiau mud, esblygodd y syniad o ddefnyddio’r ddau. 

Ym 1914, ar ddechrau’r Rhyfel Mawr, ysgrifennodd Novello “Keep the Home Fires Burning”, cân a oedd yn mynegi teimladau’r teuluoedd di-rif oedd wedi’u gwahanu gan y rhyfel. Bydd cyfansoddiad Gamelan Helen Woods yn atseinio darnau Ivor Novello drwy’r dangosiad ffilm fel rhan o’r gyfres yma o gerddoriaeth. 

Am un noson yn unig, nos Iau, 21 Mawrth 2024, am 7.30pm, bydd Helen a chymuned o chwaraewyr Gamelan Caerdydd a grŵp o gerddorion proffesiynol, yn plethu traddodiad y ffilm fud a chyfeiliant cerddorol byw ar gyfer ‘The Lodger’, i adleisio traddodiad Indonesia o berfformiadau pypedwaith cysgod Wayang Kulit, y mae cerddoriaeth Gamelan yn ganolog iddo. 

Cyfres o offerynnau efydd wedi’u tiwnio a llaw ac offerynnau pren wedi’u cerfio â llaw yw Gamelan Neuadd Dewi Sant, a dyma’r unig gyfres ddwbl lawn o Gamelan Jafanaidd efydd yng Nghymru.

Yn ogystal â’r perfformiad, bydd cyfres o weithdai cyfranogol i ysgolion a’r gymuned AM DDIM ar ‘Gerddoriaeth mewn Ffilm’, dan arweiniad Helen Woods ac arweinwyr gweithdai ym Mro Morgannwg. 

Bydd y gweithdai’n addysgu offerynnau taro Gamelan drwy ryngweithio gyda rhannau byr o’r ffilm fud addas i oedran “The Gold Rush” o 1925 gyda Charlie Chaplin, ochr yn ochr â ffilm antur gomedi dywyll 2004 “Series of Unfortunate Events” Lemony Snicket, i arddangos y trac sain, cerddoriaeth, ac effaith bwerus cerddoriaeth Gamelan. Gobeithio y bydd y sesiynau yn helpu cynulleidfa iau i werthfawrogi sinema fud hefyd. Mae mwy o fanylion am y sesiynau ar gael yn www.memoartscentre.co.uk

Ffilm Fud gyda Gamelan - Nos Iau 21 Mawrth @ 7.30pm 

Cynnig Tocyn Cynnar San Ffolant: £9 a £7 (consesiynau) os byddwch chi’n archebu rhwng dydd Mercher 14 Chwefror a dydd Mercher 28 Chwefror. Gallwch archebu tocynnau drwy www.memoartscentre.co.uk

Ar gyfer ymholiadau’r wasg, cysylltwch â Patricia O’Sullivan, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Actifyddion Artistig, drwy e-bost patricia@artsactive.org.uk neu ffoniwch 0784 1421075.