Hibakusha gan Cian Ciarán
6ed o Awst, 12-6pm, Cerrig yr Orsedd, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Munud o dawelwch am am 12pm.
I nodi 80 mlynedd ers bomio niwclear dinistriol Hiroshima yn 1945, ac yn dilyn munud o dawelwch yn y Pafiliwn ac werth Gerrig yr Orsedd, bydd y cyfansoddwr Cian Ciarán yn cyflwyno gosodiad sain i bawb ei brofi o fewn safle Cerrig yr Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae’r cerddor o Super Furry Animals wedi cynhyrchu profiad sain gofodol sy'n gwahodd ymwelwyr Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 i fyfyrio a meddwl am y miloedd o fywydau a gollwyd o ganlyniad i'r bom.
Wedi'i ysbrydoli gan ymweliadau Cian â Siapan – yn ogystal â sgyrsiau gyda goroeswyr Fukushima a'u teuluoedd – mae 'Hibakusha' yn un o'r prosiectau celf sy'n cael eu cyflwyno yn ystod Blwyddyn Cymru a Siapan – dathliad blwyddyn gyfan o'r cysylltiadau rhwng y ddwy genedl.
Mae'r tirwedd sain yn cyfuno atgofion plentyndod cynnar Cian o dyfu i fyny yng ngogledd Cymru yng nghysgod y Rhyfel Oer, wedi'i amgylchynu gan orsafoedd pŵer niwclear, a darganfod straeon bywyd yr Hibakusha – pobl yr effeithiwyd yn uniongyrchol arnynt gan y bomio. Cyfarfu Cian â pherthynas i un ohonynt yn ystod ymweliad â Fukushima yn 2013.
Bydd gosodiad chwe awr Cian – sy'n adlewyrchu taith awyren yr Enola Gay o'i esgyniad hyd nes rhyddhau'r bom 'Little Boy' dros y ddinas Siapaneaidd – yn dechrau ar ôl munud o dawelwch yn y Pafiliwn ac wrth Gerrig yr Orsedd i nodi'r digwyddiad, ac yn cynnwys 12 uchelseinydd fydd yn amgylchynu'r cylch cerrig i greu profiad sain 360 gradd. Caiff pawb hefyd eu hannog i fyfyrio ar yr holl bobl ledled y byd sydd yn, ac wedi dioddef oherwydd rhyfel.
Mae'r cerddor yn gobeithio y bydd y profiad yn annog eraill i ystyried effeithiau Hiroshima ac yn ysbrydoli adeiladu heddwch, gan adleisio galwad ac ymbiliad seremonïol craidd yr Eisteddfod, 'A Oes Heddwch?'. Bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn garan bapur – sy'n symbol o fudiad heddwch rhyngwladol plant Sadako Sasaki – i’n hatgoffa o'r angen i adeiladu heddwch mewn modd gweithredol a pa mor frau y gall fod, fel papur.
"Rwy'n credu, o ystyried yr hinsawdd wleidyddol jeopolitig bresennol, ei bod hi'n bwysicach nag erioed i ni fyfyrio, ac mae'r darn hwn yn amserol i'n hatgoffa o'r effeithiau trychinebus y gall rhyfel a gwrthdaro eu cael ar fywydau pobl," meddai Cian.
"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn symbolaidd, ac mae bob amser wedi cynnig gofod ar gyfer myfyrio ac adeiladu heddwch. Gwnes i'r penderfyniad ymwybodol i beidio â pherfformio oherwydd roeddwn i eisiau i bobl ganolbwyntio ar y pwnc, nhw eu hunain a'u profiad yn y gosodiad."
Mae'r darn yn un o fwy nag 20 o brosiectau celf a chydweithrediadau sy'n creu Rhaglen Ddiwylliant Cymru Siapan 25. Dan arweiniad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a'r British Council, mae'r rhagled ddilwylliant yn elfen allweddol o Flwyddyn Cymru a Siapan 2025 a gynlluniwyd i ddyfnhau cysylltiadau creadigol ac economaidd rhwng y ddwy wlad.
Bydd y rhaglen yn tynnu sylw at y gwerthoedd creadigol unigryw a rennir rhwng Cymru a Siapan, gyda ffocws penodol ar les diwylliannol, cynaliadwyedd, ac ieithoedd brodorol. Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), mae'r fenter yn cefnogi cydweithrediadau creadigol sydd wedi eu gwreiddio mewn cydraddoldeb, gweithredu ar yr hinsawdd, a chysylltiad cymunedol.
Fel rhan o raglen ddigwyddiadau'r Eisteddfod Genedlaethol, bydd Cian yn ymddangos ochr yn ochr â'r ymgyrchydd, Catharine Huws Nagashima, mudwr Cymreig i Siapan, i fyfyrio ar bwysigrwydd cofio i adeiladu heddwch. O dan y teitl 'Cofio, Cofio, Cofio', bydd y ddau yn siarad yn y digwyddiad ar lwyfan gyda Jill Evans, Is-Gadeirydd Academi Heddwch Cymru, "sefydliad heddwch" cyntaf Cymru.
Meddai Jill Evans: "Mae blwyddyn Cymru a Siapan yn rhoi cyfle i'n dwy genedl ddysgu gan ein gilydd wrth rannu ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog.
"Bydd Hibakusha yn cynnig cyfle i ymwelwyr â'r Eisteddfod Genedlaethol gofio effaith erchyll defnyddio arfau niwclear ochr yn ochr â'r gymuned fyd-eang, gan gryfhau penderfyniad cyffredin i weithio tuag at ddyfodol heddychlon a ffyniannus i bawb."
Meddai Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru: "Mae blwyddyn Cymru a Japan yn gyfle i'n dwy genedl rannu adlewyrchiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd trwy gelfyddyd a diwylliant.
"Mae Hibakusha yn osodiad celfyddyd sain dwys sy'n gwahodd ymwelwyr â'r Eisteddfod i fyfyrio ar effaith erchyll bom niwclear Hiroshima yng nghysgod heddychlon cylch symbolaidd y cerrig."