Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi y bydd aelodau ein carfan 2024 hynod dalentog o ar draws Band Pres, Cerddorfa a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn teithio ledled Cymru yr haf hwn, gan arddangos eu sgil a’u hymrwymiad mewn cyfres o gyngherddau cyhoeddus syfrdanol. Byddant yn ymweld â lleoliadau ar draws y wlad o Sir Benfro i Ddinbych ym mis Gorffennaf, Awst a Medi ac mae tocynnau ar werth nawr.

Yn dilyn proses glyweld gynhwysfawr yn gynharach eleni, mae aelodau ein ensembles wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru gyda lle chwenychedig yn eu priod le o fewn Ensembles Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Cyn bo hir bydd ein haelodau’n cychwyn ar gwrs preswyl wythnos o hyd, yn gweithio gyda thimau creadigol cyffrous o bob rhan o’r byd, yn perffeithio eu repertoire cyngerdd cyn camu ar y llwyfan i syfrdanu cynulleidfaoedd ym Mangor, Llanelwy, Llanbedr Pont Steffan, Abertawe a Chaerdydd. Bydd y tri Ensemble hefyd yn perfformio yn Eglwys Gadeiriol fawreddog Tyddewi fel rhan o Ŵyl Gerdd Abergwaun 2024.

Dywedodd Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd CCIC: “Un o rannau gorau fy swydd yw profi perfformiadau gwych ein ensembles cerddoriaeth. Ymhlith rhai o gerddorion mwyaf dawnus Cymru, mae ein haelodau ifanc yn gweithio’n galed yn ystod ein cyrsiau preswyl yn yr haf i roi rhaglen gyffrous o gerddoriaeth at ei gilydd i chi ei mwynhau. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’n perfformiadau, lle gallwn ddathlu’r gorau o dalent gerddorol Cymru gyda’n gilydd.”

Am y tro cyntaf erioed, bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio cyngerdd cynhwysol, hamddenol. Yn cael ei gynnal yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd, mae'r perfformiad hwn sy’n fyrrach o ran hyd wedi'i gynllunio i ddarparu amgylchedd croesawgar a hygyrch i bob cynulleidfa, gan gynnwys pobl anabl, plant iau ac aelodau o'r gynulleidfa sy’n niwrowahanol.

Mae dathlu gwaith Cyn-fyfyrwyr CCIC hefyd yn nodwedd o'r tymor eleni. Bydd yr ensembles yn perfformio cerddoriaeth a ysgrifennwyd gan dri chyn-aelod, a bydd Steel Tracks gan Michael Triggs, a aned yng Nghaerdydd, yn cael ei berfformio gan y Band Pres. Bydd Five Windows gan Niamh O'Donnell o Aberystwyth yn rhan o raglen y Gerddorfa, tra bydd y Côr yn perfformio Cainc, comisiwn newydd sbon gan y gyfansoddwraig a aned yng Nghaerfyrddin, Claire Victoria Roberts, i gerdd a ysgrifennwyd gan y bardd Cymraeg enwog, Mererid Hopwood.

Gyda haf cyffrous o gyngherddau syfrdanol yn dod i leoliad yn agos atoch chi, mae rhywbeth at ddant pawb. Peidiwch â cholli allan - ewch i'n tudalen Beth Sydd Ymlaen am restr lawn ac ymunwch â ni i glywed dyfodol cerddoriaeth Gymraeg.