Mae trefnydd y portffolio llwyddiannus o ddigwyddiadau crefft gyfoes cenedlaethol, Sarah James MBE, wedi cyhoeddi y bydd hi’n lansio digwyddiad newydd sbon yn ei thref enedigol, Aberteifi. Cynhelir Gŵyl Grefft Cymru yng Nghastell Aberteifi dros dri diwrnod rhwng 6 - 8 Medi 2024.

Gwnaed y cyhoeddiad mewn sesiwn tynnu lluniau gyda Chyngor Sir Ceredigion a phartneriaid allweddol y digwyddiad, yn cynnwys Castell Aberteifi, Mwldan, Oriel Myrddin, Llantarnam Grange, Amgueddfa Wlân Cymru, Make it in Wales, Coleg Sir Gâr, QEST (The Queen Elizabeth Scholarship Trust) a Sea & Slate.

Bydd Gŵyl Grefft Cymru, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Ceredigion a QEST, yn arddangos gwaith gan ddetholiad a ddewiswyd yn ofalus o ryw naw deg gwneuthurwr eithriadol o bob rhan o Gymru a'r DU ‒ yn cynnwys gwneuthurwyr gemwaith, crochenwyr, gwneuthurwyr dodrefn, artistiaid tecstilau, gwneuthurwyr gwydr a llawer mwy ‒ a phob un yn gwerthu eu cynhyrchion coeth, unigryw yn uniongyrchol i'r cyhoedd.

Mae Gŵyl Grefft Cymru yn croesawu pobl o bob oedran ac mae'n cynnig rhaglen gyffrous o weithdai crefft, arddangosiadau, a dosbarthiadau meistr gan rai o wneuthurwyr mwyaf blaenllaw'r DU. Dros y penwythnos yn y castell, bydd Pabell Grefft i Blant, a gefnogir gan Ganolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Amgueddfa Wlân Cymru, Coleg Sir Gâr a Theatr Byd Bach ‒ cyfle i blant fod yn greadigol a chael llawer o hwyl ar yr un pryd.

Ynghyd â'r gweithgareddau yn ystod y penwythnos, mae Gŵyl Grefft Cymru yn cyflwyno digwyddiadau ategol ar draws y dref, a fydd yn rhedeg am 4 wythnos. Mae’r uchafbwyntiau'n cynnwys yr arddangosfa gerameg, Significant Forms, lle bydd Oriel Canfas yn arddangos cerameg Gymreig o safon amgueddfa a guradir gan y crochenydd o Orllewin Cymru, Peter Bodenham; Prosiect Ieuenctid gyda Qest a Theatr Byd Bach, Llwybr Cerfluniau a gyflwynir gan Goleg Sir Gâr yn nhiroedd y castell; The Capital of Craft YN FYW (sgyrsiau yn y Plasty) a Llwybr Tref yr Ŵyl Grefft mewn chwe lleoliad lle bydd chwe gwneuthurwr datblygol yn cyflwyno gwaith newydd a ysbrydolir gan Gasgliad Amgueddfa Cymru ac a guradir gan Oriel Myrddin. Lleoliadau'r llwybr yw Mwldan, The Albion by Fforest, Crwst, Cardigan Bay Brownies, Awen Teifi, a Make it in Wales.

Mae Gŵyl Grefft Cymru yn rhan o bortffolio o ddigwyddiadau a drefnir gan Sarah James a Nina Fox, sydd hefyd yn cynnwys yr Ŵyl Grefft arobryn yn Bovey Tracey a Gŵyl Grefft Cheltenham. Sefydlwyd Gŵyl Grefft yn 2004 ac mae'n sefydliad nad yw'n gwneud elw sy'n dathlu ei Ugeinmlwyddiant yn 2024. Mae'r digwyddiad wedi tyfu o 2,000 o ymwelwyr i dros 10,000 ers iddo ddechrau, ac mae bellach yn un o ddigwyddiadau crefft blaenllaw Ewrop.

Meddai Sarah James: “Rydw i wrth fy modd o gael lansio Gŵyl Grefft Cymru yn fy annwyl dref enedigol, Aberteifi. Mae cynnal digwyddiad yma wedi bod yn uchelgais i mi ers tro, a diolch i gymorth gan Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Celfyddydau Cymru a'n partneriaid rhagorol, gallwn wireddu hyn. Mae Gŵyl Grefft yn ddathliad cydweithredol o wneud, a gefnogir gan sefydliadau celf blaenllaw yng Nghymru a thu hwnt. Mae'n gyfle gwych i wneuthurwyr dawnus arddangos, hybu a gwerthu eu gwaith, ac mae'n ddiwrnod allan ardderchog i bobl o bob oedran. Rydw i wir yn edrych ‘mlaen at y digwyddiad ym mis Medi yng Nghastell gogoneddus Aberteifi.”

Meddai'r Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio ar Gyngor Sir Ceredigion: “Rwy'n falch bod Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi Gŵyl Grefft Cymru ‒ mae’n gwireddu'r syniad o gynnal digwyddiad a drafodwyd gyntaf yn 2019. Mae Aberteifi yn lleoliad llewyrchus ar gyfer y celfyddydau gan fod llawer o fusnesau ac unigolion creadigol yn y rhanbarth. Bydd y digwyddiad yn gyfle gwych i wneuthurwyr o Geredigion dyfu eu busnesau, yn cynnig diwrnod allan gwych, ac yn denu ymwelwyr i'r dref ar ôl i dymor yr haf ddod i ben. Rwyf wrth fy modd o gael bod yn bartner allweddol i Ŵyl Grefft Cymru a gobeithiaf y bydd hwn yn ddigwyddiad blynyddol pwysig yng nghalendr digwyddiadau Ceredigion.”

Meddai Meirion Davies, Cyfarwyddwr Castell Aberteifi: “Mae hwn yn gyfle gwych i'r Castell wahodd pobl Aberteifi ac ymwelwyr o bell i fwynhau'r arddangosfa ryfeddol hon, Gŵyl Grefft Cymru. Mae'n briodol gan y byddai llawer o'r gwaith a'r crefftau a gynhyrchir ar gyfer yr ŵyl wedi bod yn rhan annatod o fywyd bob dydd yn hanes y Castell a'r dref: bydd crefftau sydd wedi goroesi treigl amser a darnau o'r safon uchaf yn dathlu gweledigaeth a sgìl pob gwneuthurwr. Mae'n gyffrous iawn.”

Gwahoddir ceisiadau gan wneuthurwyr i gymryd rhan yn y digwyddiad. Bydd y ceisiadau'n agor ar 12 Chwefror a'r dyddiad cau fydd 6pm ar 5 Ebrill. Am fanylion ac i wneud cais, ewch i www.craftfestival.co.uk/Apply/

Cynhyrchir Gŵyl Grefft Cymru mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ceredigion, Cyngor Celfyddydau Cymru a QEST.

Partneriaid Gŵyl Grefft Cymru yw: 

Castell Aberteifi, Cered - Menter Iaith Ceredigion, Coleg Sir Gâr, Darganfod Ceredigion, Llantarnam Grange, Make it in Wales, Mwldan, Amgueddfa Wlân Cymru, Oriel Myrddin Gallery (Cyngor Sir Caerfyrddin), Queen Elizabeth Scholarship Trust (QEST) a Sea & Slate.

Y cefnogwyr yw: Awen Teifi, Canfas, Cyngor Tref Aberteifi, Cardigan Bay Brownies, Coleg Ceredigion, Crwst, Fforest a Theatr Byd Bach.

Cyhoeddir mwy o fanylion am raglen Gŵyl Grefft Cymru cyn hir. I gael gwybodaeth, yn cynnwys manylion yr arddangoswyr, ewch i https://www.craftfestival.co.uk/Wales 

Mae'r tocynnau ar werth nawr.

Ar Agor Dydd Gwener, Dydd Sadwrn a Dydd Sul 10am-5pm

Tocyn diwrnod i oedolion £7

Tocyn penwythnos 3 diwrnod i oedolion £13
Plant dan 18 oed yng Nghwmni Oedolyn AM DDIM
Gofalwyr AM DDIM