Mae Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn cael ei chynnal yng Nghadeirlan Llanelwy o ddydd Iau, 12 Medi tan nos Sadwrn, 21 Medi dan arweiniad y Cyfarwyddwr Artistig newydd, y cyfansoddwr Paul Mealor.
Mae Paul Mealor, sy’n hanu o Ogledd Cymru, wedi ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer ffilm a theledu gan gynnwys y sgôr i ‘Wonders of the Celtic Deep’ sydd wedi ennill gwobr BAFTA, tair opera, pedair symffoni, concerti, cerddoriaeth siambr, llawer o gerddoriaeth gorawl a chaneuon, gan gynnwys y gân a gyrhaeddodd Rhif 1 yn y siartiau Nadolig 2011, 'Wherever You Are' i Gareth Malone a'r Military Wives Choir.
Mae hefyd wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer sawl achlysur brenhinol, gan gynnwys priodas y Tywysog William a Catherine Middleton yn 2011 sydd bellach yn Dywysog a Thywysoges Cymru, a’r Kyrie a ganwyd gan Syr Bryn Terfel yng Nghoroni’r Brenin. Yn ddiweddar fe’i penodwyd yn Is-gapten yr Urdd Frenhinol Fictoraidd (LVO) am ei wasanaeth i gerddoriaeth frenhinol. Mae cymryd y llyw yn yr ŵyl wedi dod â’i yrfa mewn cylch cyfan oherwydd iddo gael ei fentora fel protégé cerddorol ifanc gan sylfaenydd yr ŵyl, y diweddar Athro William Mathias, cyd-gyfansoddwr brenhinol Cymreig a fyddai wedi bod yn 90 oed eleni.
Thema'r ŵyl ar gyfer 2024 yw ‘trawsnewidiadau’ a phopeth y mae’n ei gwmpasu o’r byd corfforol a naturiol i’r byd barddonol, yr ysbrydol a’r metaffisegol a phopeth rhyngddynt. Ein nod yw archwilio sut y gall y celfyddydau ein trawsnewid ni a’n cymunedau a, thrwy amrywiol ffurfiau, arddulliau a genres celf sut y cawn ninnau yn ein tro, ein trawsnewid ganddynt hwythau.
Rydym yn nodi 90 mlynedd ers Trychineb Glofaol Gresffordd ac wedi cyd-gomisiynu opera gymunedol newydd Gresffordd: I’r Goleuni ‘Nawr gan y cyfansoddwr Cymreig, Jon Guy a’r bardd Cymreig, Grahame Davies, ar gyfer NEW Sinfonia a NEW Voices, a fydd yn archwilio’r themâu ‘colled’, ‘hunaniaeth’ a’r ‘amgylchedd’. Rydym hefyd yn nodi 150 mlynedd ers gwaith Mussorgsky’s ‘Pictures at an Exhibition’ a byddwn yn ei ddefnyddio fel man cychwyn i archwilio mewn gweithdai celf a phrosiect cyfansoddi newydd gyda’r pianydd Iwan Llewelyn-Jones, themâu’r rhyfel yn yr Wcrain a rôl cerddoriaeth o fewn gwrthdaro cymunedol a chenedlaethol.
Rydym yn croesawu band pres gorau’r byd, Band Foden i’r ŵyl am y tro cyntaf mewn cyngerdd sy’n siŵr o godi’r to, a byddwn hefyd yn cynnal yr anhygoel, Ar Log – un o fandiau gwerin mwyaf Cymru – mewn noson o'u clasuron poblogaidd a rhai caneuon newydd wedi eu hysgrifennu yn arbennig ar eu cyfer. Bydd y bariton, Jeremy Huw Williams yn archwilio cerddoriaeth ein sylfaenydd William Mathias yn yr hyn a fyddai wedi bod ei ben-blwydd yn 90 oed ac mae’r byd enwog, King’s Singers yn dychwelyd gyda’u lleisiau celfydd a ddisglair.
Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn dod ag un o’r darnau mwyaf enwog o gerddoriaeth Brydeinig i ni efallai, sef Enigma Variations gan Elgar gyda’i hemyn enwog, Nimrod yn ei chanol, a’r pianydd ifanc a aned yn y Rhyl, Ellis Thomas yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda BBC NOW yn chwarae Concerto rhif 1 i’r Piano a ysgrifennwyd pan oedd Mathias yn ei ieuenctid, yr un oed ag y mae Ellis heddiw. Mae corau cyfun Cymdeithas Gorawl Gogledd Cymru Trystan Lewis yn ymddangos am y tro cyntaf yn yr ŵyl hefyd, gyda pherfformiad o un o gewri’r repertoire corawl, Elias. Bydd yn siŵr o fod yn uchafbwynt yr wythnos.
Yn newydd ar gyfer eleni mae lansiad Yr Ŵyl Ymylol ochr yn ochr â rhaglen y prif gyngherddau. Mae ein Gŵyl Ymylol yn wyriad newydd i ni. Dewch i ymuno â ni mewn tafarndai yn Llanelwy a mwynhau cerddoriaeth mewn awyrgylch mwy hamddenol mewn lleoliad min-nos dros wydraid o'ch hoff ddiod. Mae gennym gyngerdd ymylol RnB/Hip-hop gydag Aisha Kigs, cerddoriaeth werin Gymreig gydag Angharad Jenkins a Patrick Rimes, noson farddoniaeth a llenyddol gydag un o brif lenorion Cymru, Grahame Davies a daw’r ŵyl i ben gyda dathliad o gomedi yn ein noson gyntaf erioed o ‘Noson Gomedi Gogledd Cymru’.
Uchafbwynt arall ar gyfer eleni fydd cystadleuaeth agoriadol Cerddor Ifanc Cymru Pendine mewn partneriaeth gyda’r prif noddwyr Ymddiriedolaeth Celf a Chymunedau Pendine. Mae’r gystadleuaeth yn agored i holl gerddorion sydd wedi eu geni neu yn byw yng Nghymru, neu sydd yn Gymry sydd yn astudio dramor. Rhaid i’r holl gerddorion fod o dan 21 oed ar 1 Ionawr 2024 i fod yn gymwys i gystadlu, ond nid oes isafswm oed ar gyfer cystadlu. Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £2,000 a Thlws Pendine yn ogystal â chael ei wahodd yn ôl i berfformio yn yr ŵyl y flwyddyn nesaf. Mae ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth bellach yn cael eu derbyn trwy wefan yr ŵyl nwimf.com a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Awst.
Mae’r ŵyl hefyd wedi’i chefnogi gan brif gyllidwyr grantiau Cyngor Celfyddydau Cymru, Colwinston Charitable Trust, Celfyddydau a Busnes Cymru a Tŷ Cerdd. Mae gŵyl eleni yn cael ei hariannu’n rhannol gan lywodraeth y DU drwy Y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer Sir Ddinbych.
Mae ein gwaith ymestyn i’r gymuned yn parhau i fod yn hollbwysig i ni. Bydd artistiaid gweledol a cherddorion proffesiynol o Live Music Now Cymru yn cyflwyno digwyddiadau o fewn ysgolion anghenion dysgu ychwanegol, canolfannau gofal dydd, cartrefi gofal a Hosbis St Kentigern, ac rydym yn cynnal cyngerdd penodol sy’n gyfeillgar i ddementia yn ogystal â’n cyngerdd bythol boblogaidd i blant o bob oed.
Mae tocynnau a manylion pellach am raglen yr ŵyl a chystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru Pendine ar gael ar wefan yr ŵyl - nwimf.com.
Mae tocynnau hefyd ar gael o ‘Cathedral Frames, Llanelwy – 01745 582929 (Mercher-Gwener 10-4) a Theatr Clwyd dros y ffôn - 01352 344101 (Llun – Sadwrn 10-6).