Caerdydd, Cymru – Bydd Gŵyl Ffilm Undod 2024 yn digwydd yr hydref hwn fel digwyddiad unigryw yng Nghymru, wedi ei neilltuo i hyrwyddo a dathlu ffilmiau a wnaed gan a gydag actorion a phobl greadigol ag anabledd dysgu ac awtistig. Fe’i cynhelir yng Nghanolfan Chapter yng Nghaerdydd ar 8 a 9 Tachwedd. Mae’r ŵyl yn cynnig llwyfan unigryw i sinema gynhwysol ac mae’n addo profiad fydd yn ysbrydoli i’r cynulleidfaoedd o bob cefndir.
Yr Unig Ŵyl o’i Bath yng Nghymru
Gŵyl Ffilm Undod yw’r unig ŵyl yng Nghymru sy’n rhoi pwyslais ar lais actorion a phobl greadigol ag anabledd dysgu ac awtistig. Mae’r digwyddiad yn arddangos eu talentau gan ymdrin â materion i’r diwydiant fel arferion castio cynhwysol a chynrychiolaeth pobl anabl ar y sgrin. Mae’r ŵyl yn cyflwyno’r ffilmiau cynhwysol gorau o Gymru ac o gwmpas y byd, gan gynnwys gwahanol genres o raglenni dogfen ac animeiddio i ddramâu a chomedïau, gyda sesiwn arbennig wedi ei theilwrio i gynulleidfaoedd iau. Gwnaed pob ffilm gan neu gyda phobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.
Digwyddiadau Allweddol:
- Rhwydweithio i’r Diwydiant a Thrafodaeth Panel: Ar ddydd Gwener, 8 Tachwedd am 2:30pm, bydd yr ŵyl yn cynnal panel dan y teitl How Far Have We Come? Bydd y sesiwn hon yn ystyried 7 Safon Castio Hijinx, a gyflwynwyd saith mlynedd yn ôl, gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant yn trafod cynnydd, hanes llwyddiant fel Craith/Hidden a Ralph & Katie, a’r heriau sy’n parhau.
- Dangosiadau Cyntaf Ffilmiau: Gall y rhai fydd yn bresennol fwynhau dau ddangosiad cyntaf allweddol, gan gynnwys y dangosiad cyntaf yng Nghymru o Shadow gan Back to Back Theatre, a dangosiad cyntaf y byd o Lost and Found, cynhyrchiad gan Hijinx sy’n adrodd stori emosiynol taith fabwysiadu’r actor Christopher Miller.
- Noson i’r Wasg: Dydd Sadwrn, 9 Tachwedd am 5:30pm.
Gŵyl â Chenhadaeth
Mae Hijinx wedi ymrwymo i ddefnyddio Gŵyl Ffilm Undod 2024 i ehangu’r ddealltwriaeth o gelfyddydau cynhwysol a herio amgyffrediad cymdeithas. Nod yr ŵyl yw arddangos talent pobl greadigol ag anabledd dysgu ac awtistig gan ymdrin â’r rhwystrau systemig y maen nhw’n eu hwynebu. Mae digwyddiad eleni’n nodi cam allweddol yn strategaeth Hijinx i ennyn ymlyniad cynulleidfa ehangach, yng Nghymru ac yn fyd-eang.
Dywedodd Dan McGowan, Pennaeth Ffilm Hijinx:
“Rydym wedi dwyn cymysgedd wych o ffilmiau o bob rhan o’r byd at ei gilydd, y cyfan wedi eu gwneud gan neu gyda phobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, yn cynnwys ffilmiau byr, rhaglenni dogfen, animeiddio, drama, comedi, gwyddonias... gyda gwneuthurwyr ffilm yn rhannu eu prosesau a’u cyfrinachau tu ôl i’r llen mewn sesiynau holi ac ateb. Ac rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael cefnogaeth Film Hub Wales, Ffilm Cymru, Bad Wolf, a Arts & Business Cymru. Allwn ni ddim aros i rannu’r cyfan gyda’r cynulleidfaoedd.'
Ehangu’r Effaith
Mae Hijinx yn canolbwyntio ar ehangu cyrraedd a dylanwad yr ŵyl.
“Ar ôl llwyddiant yr Ŵyl Ffilm Undod gyntaf yn 2022, fel rhan o Ŵyl Undod, rydym wedi cyffroi o’i gweld yn dychwelyd fel digwyddiad ar ei ben ei hun. Ein nod yw cynyddu’r gynulleidfa, gan ddenu amrywiaeth i fod yn bresennol gan gynnwys myfyrwyr, teuluoedd a’r gymuned anabl. Trwy wneud hynny, rydym yn gobeithio cryfhau effaith yr ŵyl a pharhau i godi proffil Hijinx fel arweinydd yn y celfyddydau cynhwysol,” dywedodd Eloise Tong, Prif Weithredwr Dros Dro Hijinx.
Hygyrch i Bawb
Bydd pob dangosiad yn hollol hygyrch, gan gynnwys dangosiadau ymlacedig, capsiynau a disgrifiadau sain. Bydd cyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a chapsiynau byw ar gael ar gyfer sesiynau holi ac ateb a thrafodaethau panel, gan sicrhau bod yr ŵyl yn groesawus ac yn cynnwys pawb.
Rhagor o wybodaeth ac archebu tocynnau
I gael y wybodaeth i gyd ac archebu tocynnau, ewch i wefan Hijinx.