CAERDYDD [23.09.24] : Mae Labordy CULTVR, y ganolfan gelfyddydau Realiti Ymestynnol (XR) arloesol, yn falch iawn i gyhoeddi fod ein partneriaeth gyda Fulldome UK, gŵyl gelfyddydau trochol fwyaf nodedig Prydain, yn parhau. Rydyn ni wrth ein bodd ein bod cydweithio eto i ddod â FDUK 24 yn ôl i Gaerdydd ym mis Hydref - gan adeiladu ar lwyddiant ymweliad cyntaf yr ŵyl â Chymru y llynedd. Bydd gŵyl eleni yn ddathliad anhygoel o brofiadau trochol arloesol a chyfryngau di-ffrâm o'r radd flaenaf.
Cynhelir FDUK 24 yng Nghaerdydd ddydd Gwener 11 a dydd Sadwrn 12 o Hydref. Byddwn yn rhoi llwyfan i amrywiaeth eang o waith gan artistiaid a chynhyrchwyr cryndo amgylchynol (fulldome) o ledled y byd. Mae'r ŵyl yn gyfle unigryw i fynychwyr brofi ac archwilio holl sbectrwm creadigrwydd y cryndo amgylchynol, dysgu gan arbenigwyr rhyngwladol a chysylltu â chyd ymarferwyr creadigol sy'n rhan o gymuned y celfyddydau trochol. Mae rhaglen yr ŵyl yn cynnwys paneli trafod, gweithdai i ymarferwyr, dangosiadau arbennig o ffilmiau rhestr fer FDUK 24, perfformiadau byw a llawer mwy.
"Ers dros ddegawd, mae FDUK wedi hybu a dathlu artistiaid, gweithwyr proffesiynol creadigol ac ymchwilwyr sy'n gweithio ym maes amgylcheddau cryndo trochol. Rydyn ni wrth ein bodd i ddychwelyd i Gymru i barhau i feithrin cysylltiadau rhwng cymunedau sy'n siapio dyfodol y maes arbennig hwn sy'n esblygu'n gyflym yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol." Phil Meyer o Fulldome UK.
Mae Dewis Swyddogol 2024 yn cynnwys 36 o ffilmiau trochol a gynhyrchwyd mewn 14 o wahanol wledydd sy'n adlewyrchu ymrwymiad yr ŵyl i roi llwyfan i amrywiaeth o wahanol leisiau a safbwyntiau. Eleni bydd yr ŵyl hefyd yn cyflwyno perfformiadau byw gan artistiaid o'r DU - Bertie Sampson, Beardyman, a Teddy Hunter o Gymru. Yn ogystal, bydd FDUK 2024 yn cynnwys cyflwyniadau gan yr artistiaid amlgyfrwng Aude Guivarch a Marie Leblanc Flanagan sydd wedi cael cefnogaeth yn sgil partneriaeth rhwng Labordy CULTVR a Society for Arts and Technology o Montreal fel rhan o fenter Cymru-Cwibec.
Nod rhaglen yr ŵyl yw denu cynulleidfa mor eang â phosibl, gan gynnwys cynrychiolwyr rhyngwladol, artistiaid, gwneuthurwyr ffilm, cerddorion, cynhyrchwyr ac arloeswyr o fyd technoleg i greu amgylchedd deinamig a chynhwysol i bawb sy'n mynychu.
Mae cynnal gŵyl FDUK fel gwireddu breuddwyd i ni yn Labordy CULTVR. Ers ein profiad cyntaf o FDUK yn 2011, rydyn ni wedi ymroi i gynhyrchu ffilmiau cryndo amgylchynol a pherfformiadau Realiti Ymestynnol byw sydd wedi creu argraff yn fyd-eang. Nawr bod gyda ni ein canolfan gelfyddydau ein hunain, ein nod yw agor drws posibiliadau'r platfformau digidol newydd yma i bawb, ac ysbrydoli cyd ymarferwyr a gweithwyr creadigol, yn union fel y cawsom ni ein hysbrydoli dros ddegawd yn ôl". Janire Najera - Labordy CULTVR
Ddydd Gwener 11 Hydref bydd yr ŵyl yn cynnal sioe arddangos arbennig - wedi'i threfnu ar y cyd â Town Square a Media Cymru. Bydd y digwyddiad yma'n amlygu prosiectau blaengar a gwaith arloesol gan gwmnïau o Gymru, gan roi llwyfan i dalent lleol a chenedlaethol gyflwyno eu gwaith i gynulleidfa ryngwladol.
Trefnir yr ŵyl gan stiwdios cynhyrchu GaiaNova (Llundain), Cynhyrchiadau 4Pi Productions (Caerdydd) a United VJs (Brasil) gyda chefnogaeth NSC Creative (Caerlŷr), I-Dat a Real Ideas (Plymouth). Mae'r ŵyl hefyd yn un o'r partneriaid a sefydlodd The Best of Earth Awards, menter gydweithredol rhwng rhai o wyliau ffilm cryndo amgylchynol amlycaf y byd, gan gynnwys Gŵyl FullDome yn Jena (Yr Almaen), Dome Fest West yn Los Angeles (UDA), Gŵyl Dome Under yn Melbourne (Awstralia), Gŵyl SAT yn Montreal (Canada) a Gŵyl Brno Fulldome (Y Weriniaeth Tsiec).
Dywedodd Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Mae bob amser yn gyffrous i weld gwaith sy'n torri tir newydd, fel yr hyn y mae Labordy CULTVR a FDUK yn ei wneud, yn parhau i ddatblygu yng Nghymru gan roi platfform ffantastig i artistiaid, gweithwyr creadigol ac ymchwilwyr ym maes technoleg trochol. Mae'r rhaglen yn edrych yn wych, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ddod i brofi'r digwyddiad unigryw yma, archwilio ffyrdd newydd o fwynhau cyfryngau trochol, a chael eich ysbrydoli i ymuno'r â'r sector yma sy'n datblygu'n barhaus."
Mae FDUK 2024 wedi derbyn cyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.fulldome.org.uk