Dyw’r Nadolig ddim yn Nadolig heb The Nutcracker! Mae’r bale hudolus hwn yn swyno cynulleidfaoedd ledled y byd bob blwyddyn gyda’i gerddoriaeth hyfryd, ei stori hudolus a hwyl yr ŵyl. Mae Gŵyl Fale Aberhonddu yn falch o gyflwyno unig gynhyrchiad proffesiynol maint llawn Cymru o’r clasur bythol hwn. Bydd yn cynnwys dros 80 o ddawnswyr ar y llwyfan gyda cherddorfa wych Gŵyl Fale Aberhonddu yn cyfeilio iddyn nhw’n fyw. Mae tocynnau ar gael nawr o swyddfa docynnau Theatr Brycheiniog!