Eleni, bydd gŵyl ddawns a symud amlddiwylliannol – sef Gŵyl Ysbryd Ryngwladol ’25 – yn cael ei chynnal yng nghanol dinas fywiog Wrecsam ar 19 Gorffennaf. Mae’r Ŵyl Ysbryd yn ei thrydedd flwyddyn erbyn hyn, a chaiff ei chynhyrchu gan Paallam Arts.
Bydd rhaglen yr ŵyl ar gyfer eleni yn cynnig adloniant i bobl o bob oed a gallu yn y gymuned a bydd yn cynnig cyfle unigryw i ymwelwyr fwynhau gwahanol fathau o ddawns a symud mewn lleoliad awyr agored hygyrch. Cynhelir perfformiadau gan artistiaid unigol proffesiynol, cwmnïau theatr a chwmnïau dawns yng nghanol Sgwâr y Frenhines yn Wrecsam, gan ddathlu celfyddyd leol, genedlaethol a rhyngwladol.
Caiff yr ŵyl, a fydd hefyd yn cynnwys rhaglen o weithdai mewn ysgolion lleol, ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, tîm Cydlyniant Cymunedol Cyngor Wrecsam, yr Hwb Amlddiwylliannol a Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae Gŵyl Ysbryd Ryngwladol ’25 yn rhan o Gymdeithas Gwyliau Ewrop – sef cymuned o wyliau celfyddydol sy’n dod â phobl a sefydliadau at ei gilydd i gyfnewid, creu a gweithredu.
Bydd dawnswyr a pherfformwyr yn llenwi prif sgwâr Wrecsam ar gyfer digwyddiad lliwgar a bywiog y gall pawb ei fwynhau mewn amgylchedd hwyliog, hygyrch a chynhwysol.
Eleni, bydd y perfformwyr yn cynnwys artistiaid, dawnswyr ac actorion rhyngwladol o bob cwr o’r DU, yn ogystal â pherfformiadau gan grwpiau dawns o blith y gymuned leol. Bydd modd i’r ymwelwyr wylio perfformiadau anhygoel gan gwmnïau fel Hijinx Theatre, No Sleep Dance Theatre, Le Physical a Krystal Lowes Daughters of the Sea ymhlith eraill, yn ogystal ag artistiaid Paallam Arts. Hefyd, bydd artistiaid rhyngwladol yn cymryd rhan, yn cynnwys Roseta Plancia o Sbaen a thîm o artistiaid Kalaripayattu o Ayodhana Kalaripayattu Gurukkal, Bangalore, India.
Ymhellach, mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi comisiynu gwaith newydd gan gynhyrchwyr yr ŵyl, Paallam Arts. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyflwyno yng Ngŵyl Ysbryd Ryngwladol ’25 a hefyd bydd yn cael ei berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ym mis Awst – cyhoeddir rhagor o fanylion cyn bo hir.
Yn ogystal â thynnu sylw at ddawns a symud, bydd yr ŵyl hefyd yn creu llwyfan unigryw ar gyfer cyfnewid diwylliannol a chysylltiad cymunedol. Bydd y lleoliad awyr agored yn cynnig cyfle i gynulleidfaoedd fwynhau dawns ac ymhél â’r gelfyddyd – cynulleidfaoedd na fyddent, o bosibl, yn ymweld â lleoliadau celfyddydol traddodiadol fel arfer.
Bydd yr ŵyl hon yn ddigwyddiad cymunedol o’r iawn ryw i Wrecsam. Bydd yn cynnwys gwerthwyr ‘bwyd stryd’ lleol, megis The Little Food Company a Koffee King ymhlith eraill, a hefyd bydd yn cynnig cyfle i ymwelwyr gyfarfod â grwpiau lleol fel Refugees Kindness, Hwb Amlddiwylliannol Gogledd Ddwyrain Cymru ac Edible Wrexham.
Ymhellach, bydd gwirfoddolwyr o Brifysgol Wrecsam yn cyfrannu trwy estyn croeso cynnes i bawb a fydd yn ymweld â’r ŵyl fel rhan o’r tîm digwyddiadau.
Bydd perfformwyr yr ŵyl wrth law drwy gydol y diwrnod i siarad ag ymwelwyr ar ôl eu perfformiad er mwyn ateb cwestiynau mewn amgylchedd hamddenol braf a chreu digwyddiad cwbl integredig. Bydd yr ŵyl yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a’u teuluoedd, a bydd mannau ymlacio pwrpasol ar gael er mwyn i bobl allu cael seibiant oddi wrth y bwrlwm.
Gweithdai i Bobl Ifanc yn Tŷ Pawb
Yn ychwanegol at brif ddigwyddiadau’r ŵyl, bydd gweithdai ar gyfer pobl ifanc o ysgolion lleol yn cael eu cynnal mewn partneriaeth â’r lleoliad celf Tŷ Pawb yn Wrecsam. Byddant yn cael eu cynnal ar 11 ac 14 Gorffennaf. Bydd y gweithdai hyn yn hyrwyddo llesiant a symud, gan gynnig profiad cynnar o ddawns a symud er mwyn creu a meithrin cariad at y gelfyddyd o oedran cynnar. Bydd modd i blant gymryd rhan mewn gwahanol weithdai, yn cynnwys dawnsio’r glocsen a’r grefft ymladd Kalaripayattu.
Medd Krishnapriya Ramamoorthy, Cynhyrchydd yr Ŵyl a Phrif Swyddog Gweithredol Paallam Arts:
“Dangosodd Gŵyl Ysbryd ’23 a ’24 fod celfyddyd yn meddu ar y pŵer i uno, ysbrydoli a chodi calonnau – mae’n ddigwyddiad hollbwysig i Wrecsam a thu hwnt.
Mae creu a darparu profiadau am ddim o’r radd flaenaf i’r cyhoedd yn yr awyr agored ac yng nghanol eu cymuned yn ffordd berffaith o sicrhau bod pobl yn gallu mwynhau dawns a symud heb unrhyw rwystrau. Mae’r ŵyl yn dathlu dawns a symud, gyda rhagoriaeth artistig wrth ei chalon a’i chraidd. Yn Paallam Arts, ein nod yw ennyn diddordeb mewn dawns a symud. Trwy gyflwyno’r ŵyl hygyrch hon bob blwyddyn, rydym gam yn nes at wireddu ein cenhadaeth.”
Medd Jo Marsh, Cyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb:
“Mae’r Ŵyl Ysbryd yn rhan unigryw o dirlun diwylliannol Cymru, gan ddwyn ynghyd ddoniau artistig eithriadol yn y maes dawns a symud o bob cwr o’r byd, ochr yn ochr â pherfformwyr lleol a rhanbarthol. Braint i Tŷ Pawb yw cael bod yn bartner gyda’r Ŵyl Ysbryd, fel rhan o’n nod craidd i hyrwyddo amlddiwylliannedd, cyfranogiad, rhagoriaeth artistig a chydberthynas. Pleser yw gweld yr ŵyl yn mynd o nerth i nerth bob blwyddyn, er budd y cynulleidfaoedd a’r gymuned artistig. Mae Paallam Arts, dan arweiniad ysbrydoledig Krishnapriya Ramamoorthy, yn ased i Wrecsam.”