Galwad am Wneuthurwyr 18-25 Oed
Mae Plas Glyn-y-Weddw a Crefftau Making Little Craft yn gwahodd gwneuthurwyr a chrefftwyr 18-25 oed sy'n dod o ogledd Cymru neu sy'n byw yno ar hyn o bryd i wneud cais am y Wobr Gwneuthurwr Ifanc unigryw hon ac i greu gwaith newydd ar gyfer arddangosfa Coed/Coexist a gynhelir ym Mhlas Glyn-y-Weddw o Fai - Gorffennaf 2026. Mae'r wobr yn cynnig cyfle i unigolyn ymgymryd ag wythnos o brofiad gwaith gyda gwneuthurwyr profiadol, wythnos o ddefnydd stiwdio am ddim, £2,000 i wireddu gwaith newydd a cael ei chynnwys yn arddangosfa Coed/Coexist ym mis Mai 2026.
Mae'r wobr yn cynnwys:
- £2,000 i wireddu gwaith newydd (gan gynnwys yr holl ffioedd gan gynnwys cludo gwaith i Blas Glyn-y-Weddw)
- 1 wythnos o brofiad gwaith yn Stiwdio Making Little Craft Studios (profiad o weithdai pren a/neu fetel)
- 1 wythnos o ddefnydd stiwdio yn Stiwdio Making Little Craft Studios yn Nhudweiliog (mewn gweithdai pren a/neu fetel)
- Deunydd pren o'r goeden ffawydd sydd wedi cwympo gan gynnwys planciau, boncyffion, canghennau'r canopi, sglodion pren, blawd llif a siarcol.
- Cefnogaeth gan Plas Glyn-y-Weddw a Junko Mori a John Egan drwy gydol y prosiect
Pwy all wneud cais:
- Gwneuthurwyr/crefftwyr rhwng 18-25* oed
- Gwneuthurwyr/crefftwyr sy'n byw yng ngogledd Cymru am y 5 mlynedd diwethaf neu sy'n wreiddiol o ogledd Cymru
- Gwneuthurwyr sy'n gweithio mewn cyfryngau crefft e.e. clai, gwydr, metel, pren, a ffibr. Rydym yn diffinio crefft fel gwneud gwrthrychau diriaethol â llaw yn fedrus. Nid yw cyfryngau fel peintio a lluniadu a ystyrir yn draddodiadol yn 'gelfyddydau cain' yn gymwys. Cysylltwch â john@makinglittle.com os ydych yn ansicr ynghylch sut y gallai eich ymarfer fod yn berthnasol yn hyn o beth
- Rydym yn annog ceisiadau gan artistiaid heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys o gefndiroedd incwm isel, y rhai sy'n niwroamrywiol, artistiaid LGBTQIA+ ac artistiaid o'r mwyafrif byd-eang. Croesewir cynigion gan artistiaid sy'n siarad Cymraeg
- Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir i wneud cais.
*Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 25 oed ym mis Mai 2026
Am unrhyw ymholiadau: E-bost: john@makinglittle.co.uk
Sut i Ymgeisio: Cyflwynwch geisiadau drwy e-bost i john@makinglittle.co.uk
Gofynion Ymgeisio:
Anfonwch PDF gyda'r wybodaeth ganlynol:
- Gwybodaeth fywgraffyddol gan gynnwys cefndir addysgol, profiad gwaith ac ati (Uchafswm o 250 gair)
- Disgrifiwch eich ymarfer a sut rydych chi'n gweld y cyfle hwn o fudd i chi a'ch gwaith (Uchafswm o 250 gair)
- Delweddau: Anfonwch hyd at 6 jpeg o ansawdd da o waith diweddar (dylai pob ffeil fod o leiaf 1MB ac uchafswm o 3MB). Labelwch bob ffeil; 'Enw'r artist, teitl, blwyddyn, cyfrwng'.
Images: Send up to 6 good quality jpegs of recent work (each file should be a minimum of 1MB and max 3MB). Label each file; ‘Artist name, title, year, media’.
Dyddiad Cau:
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn: 5yh, 31 Gorffennaf 2025
Y Broses Ddethol:
Bydd panel dethol yn asesu pob cynnig, yn cynnwys Junko Mori a John Egan, Cyfarwyddwr Plas Glyn y-Weddw, Curadur a Swyddog Ymgysylltu a detholwr allanol arall.
Amserlen Gwobr Gwneuthurwr Ifanc:
Ceisiadau'n Agor: 1 Gorffennaf
Cau Ceisiadau: 31 Gorffennaf
Hysbysir Ymgeiswyr erbyn: 30 Awst
Profiad gwaith ac amser stiwdio: O fis Medi ymlaen
Arddangosfa'n agor: Mai 2026
Arddangosfa'n cau: Gorffennaf 2026