Yn gynharach eleni, rhannodd AM alwad yn cynnig £500 yr un i bedwar gwneuthurwr ffilm llawrydd i greu ffilm am ddiwylliant cymunedol yng Nghymru. Gallai’r ffilmiau ddogfennu gweithgaredd celfyddydol, cymdeithasol neu waith penodol unigolion/sefydliadau o fewn y gymuned. Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Gyngor y Celfyddydau fel rhan o’r ariannu aml-flwyddyn a dderbyniodd PYST Cyf yn gynharach eleni.

Derbyniwyd nifer enfawr o geisiadau ac ar ôl proses ddethol anodd, rydym yn falch iawn o gyhoeddi mae’r pedwar gwneuthurwr ffilm llwyddiannus yw Ffion Pritchard, Jon Berg, Mairéad Ruane a Harriet Fleuriot. Llongyfarchiadau! Mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth ac yn agoriad llygad i weld y nifer a’r cyfoeth o syniadau o bob rhan o Gymru â dderbyniwyd.

Dywedodd Nico Dafydd, gwneuthurwr ffilm ac un o aelodau Bwrdd PYST Cyf oedd ar y panel dethol:

“Roedd hi mor galonogol gweld cymaint o geisiadau ar gyfer y gronfa hwn, sydd yn hollbwysig wrth feithrin ac amlygu lleisiau newydd. Mae’r pedair ffilm sydd wedi eu dewis mor amrywiol ac uchelgeisiol, ond gyda dau beth pwysig yn eu clymu at ei gilydd; gweledigaeth y gwneuthurwyr, a phenodoldeb y cymunedau.”

Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am y ffilmiau dros y misoedd nesaf. Yn y cyfamser, dysgwch fwy am y pedwar gwneuthurwyr ffilm llwyddiannus isod! 

Ffion Pritchard 

Mae Ffion yn artist efo diddordeb mewn sut y gall celf fod o fudd i gymdeithas, boed hynny trwy gelf gymunedol, celf mewn gofal iechyd neu trwy bŵer cathartig adrodd straeon, hiwmor ac adloniant. Ar ôl hyfforddi fel darlunydd, gan raddio o brifysgol Brighton gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2017, mae ei hymarfer wedi parhau i fod yn eang ac eclectig, gan rychwantu ar draws disgyblaethau. 

Jon Berg 

Mae Jon yn athro dawns wedi troi yn sinemstograffydd, a raddiodd o Brifysgol De Cymru gyda ffocws ar greu ffilmiau dogfen. Yn diweddar, mae wedi creu film am waith Crochendy Nantgarw, a chyfres am arfordiroedd Cymru ar gyfer y sianel YouTube llwyddiannus Coastal Foraging with Craig Evans. 

Mariéad Ruane

Mae Mairéad (nhw/hi) yn ymarferwr creadigol Cymreig/Gwyddelig sydd yn ceisio cydweithio ar brosiectau sydd yn cyfuno celfyddydau, iechyd a chyfiawnder cymdeithasol. Mae Mairéad wedi treulio 2 flynedd yn cyd-gynhyrchu gem ddianc yn archwilio profiadau gydag anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD), ac yn ddiweddar wedi cynorthwyo ar gynhyrchu drama sydd yn archwilio profiadau Latinx o iechyd meddwl. Ar hyn o bryd, mae Mairéad yn cynhyrchu ‘The Call Centre’, rhaglen berfformio gan yr artist Samra Mayanja.

Harriet Fleuriot 

Mae Harriet yn artist sy'n gweithio o fewn perfformio, fideo a gosodiadau. Mae hi’n creu celf yn unigol ac ar y cyd, yn gweithio rhwng y byw a recordiad. Mae ganddi ddiddordeb yn sut mae’r corff yn perfformio archif o ymwrthiadau cudd, a sut mae’r ddelwedd symudol yn cynnig safle ar gyfer aflonyddu naratif ac ail-ddychmygu. Mae gwaith Harriet wedi ei gyflwyno yn y DU ac yn ryngwladol mewn orielau, gwyliau ffilm a digwyddiadau perfformio, ac mae hi wedi derbyn gwobrau am ei ffilmiau byrion. Mae hi wedi mentora gwneuthurwyr ffilm, ac yn cynnal gweithdai celf rheolaidd ar gyfer grwp iechyd meddwl a llesiant lleol yn y Rhondda.