Bydd naw o wneuthurwyr ffilm o Gymru’n cael cyfle i anadlu, i adeiladu ac i greu yn sgil labordy datblygu talent Ffilm Cymru Wales, Lle / Space.
Mewn partneriaeth â Cyswllt Diwylliant Cymru a LIM | Less Is More, mae labordy Lle / Space yn cefnogi pobl sy’n uniaethu â’r mwyafrif byd-eang ac sydd ag uchelgais i - neu eisoes wedi cael rhywfaint o brofiad - o ysgrifennu, o gyfarwyddo neu o ddatblygu ffilm nodwedd sinematig.
Yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol, bydd y cyfranogwyr llwyddiannus yn cychwyn ar encil preswyl creadigol ym Mhenrhyn Gŵyr, De Cymru, wedi ei arwain gan LIM | Less Is More, y rhaglen ddatblygu ffilm Ewropeaidd. Bydd y tiwtoriaid Nayeem Mahbub a Patricia Drati yn helpu’r gwneuthurwyr ffilm i archwilio eu syniadau, i fireinio eu sgiliau adrodd stori, ac i feithrin eu hymdriniaeth greadigol o ddatblgyu ffilm mewn amgylchedd ysbrydoledig sy’n pwysleisio egwyddorion gofal, llesiant a rhyddid creadigol. Yn dilyn yr encil, sy’n cael ei dalu amdano, bydd dosbarthiadau meistr a sesiynau mentora a datblygu gyrfa yn cael eu cynnal gydol y flwyddyn.
Y naw gwneuthurwr ffilm sydd wedi eu dewis i gymryd rhan yw:
Ndidi John
Prosiect: Coma
Mae Ndidi yn awdur, cyfarwyddwr ac actifydd creadigol sy’n gweithio mewn sawl disgyblaeth, ac mae ei gwaith yn canolbwyntio ar y cyflwr dynol ac ar dirwedd seicolegol profiad byw. Mae ei gwaith yn cwmpasu'r llwyfan a'r sgrîn. Mae ei phrofiad yn cynnwys ysgrifennu ar gyfer Bad Wolf, ac ar hyn o bryd mae ei drama Routes wedi ei chynnwys ar y cwricwlwm cenedlaethol mewn ysgolion ledled y DU. Mae hi'n gyd-awdur a chyd-gyfarwyddwr This is How It Feels, fydd yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Ebrill 2025.
Yassa Khan
Prosiect: Daffodil
Gwneuthurwr ffilmiau Cymreig/Pacistanaidd yw Yassa ac mae ei waith yn cyfuno naratifau teimladwy, themâu mawreddog, a delweddau gweledol trawiadol, sy’n aml yn galeidosgopig. Enillodd ei raglen ddogfen fer gyntaf, Cosmoto, am geidwaid gwrth-botsio yn Sambia, gydnabyddiaeth ar y gylchdaith gwyliau. Cafodd ei raglen ddogfen hir, Overheated, ffilm sy'n canolbwyntio ar yr hinsawdd, ei rhyddhau mewn partneriaeth â WeTransfer a’i dangos yn fyd-eang. Mae Billie Eilish, Vivienne Westwood, ac YungBlud yn ymddangos ynddi.
Mahesh Madhu Naidu
Prosiect: Rent a Family
Cafodd y gwneuthurwr ffilm Mahesh ei eni yn yr India, ei fagu yn y Congo, ac erbyn hyn mae’n byw yng Nghymru. Mae ei fagwraeth draws-ddiwylliannol yn llunio'r straeon y mae'n eu hadrodd. Mae’n cyfuno hiwmor, calon a dryswch er mwyn archwilio hunaniaeth, cyswllt, a pha mor abswrd yw bod yn ddynol. Mae ei waith cynnar yn cynnwys No Evom, drama gafodd ei rhyddhau ar Amazon Prime. Aeth yn ei flaen wedyn i wneud Lazy Bones, a enillodd Wobr Ffilm yn Cannes. Yn fwyaf diweddar, mae wedi cyfarwyddo Quackers ar gyfer BBC iPlayer.
Janet Marrett
Prosiect: Ablution
Mae Janet yn awdur-gyfarwyddwr a hi fu’n gyfrifol am sefydlu Mediathirsty. Mae hefyd yn aelod o Directors UK a BAFTA Connect. Yn 2023, cwblhaodd y ffilm fer Returned, a gefnogwyd gan RHWYDWAITH y BFI, gyda Michelle Greenidge, Max Fincham a Jeffery Kissoon yn serennu ynddi. Cafodd ei thair ffilm fer annibynnol cyntaf, Kindred, Clearing ac Asunder, eu dangos yn rhyngwladol, gan ennill sawl gwobr, gan gynnwys yn y Court Métrage yn Cannes, yn Aesthetica, gŵyl sy’n gymwys ar gyfer BAFTA, a’r British Urban Festivals, Toronto Black, Halifax Black a Gwyliau Ffilm Rhyngwladol Houston.
Darragh Mortell
Prosiect: Sitters
Mae Darragh yn awdur a chyfarwyddwr arobryn. Enillodd ei ffilm fer gyntaf, Peep Dish, wobr am y Ffilm Arbrofol Orau yng Ngŵyl Ffilm Annibynnol Llundain, a chafodd ei hail ffilm, Donald Mohammed Trump, gydag Asim Chaudhry yn serennu ynddi, ei dangos yn y BFI yn ogystal â derbyn beirniadaeth wych yn y Guardian a'r Huffington Post. Mae'n gyn-fyfyriwr o Ystafell Ysgrifenwyr y BBC, ac mae wedi bod yn rhan o ystafelloedd ysgrifenwyr ar gyfer Bad Wolf a Zodiak. Yn ddiweddar cafodd un o’i sgriptiau comedi ei throi'n beilot ar gyfer BBC3.
Tina Pasotra
Mae Tina yn wneuthurwr ffilmiau, yn gyfarwyddwr ac yn artist sy'n byw yng Nghaerdydd. Yn ddiweddar, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ffilm iddi yn sgîl Gwobr y Dyfodol Sefydliad y Celfyddydau. Cafodd ei ffilm gyntaf, But Where Are You From?, a gafodd ei chomisiynu ar gyfer C4/Random Acts mewn cydweithrediad â Big Dance Shorts India, ei dangos yn nigwyddiad Illuminating India yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth, ac mae wedi ei dangos mewn gwyliau ledled y DU ac India. Cyfarwyddodd a chyd-ysgrifennodd ei ffilm fer naratif gyntaf, I Choose, yn 2020, a chafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr Ffilm Fer Orau BAFTA Cymru 2021, a'i dewis ar gyfer y rhaglen ddatblygu talent flaenllaw Network@LFF yng Ngŵyl Ffilm Llundain y BFI. Yna, cwblhaodd Tina gynllun cyfarwyddwr dan hyfforddiant yn Bad Wolf, gan gysgodi'r cyfarwyddwr Farren Blackburn, sydd wedi ennill gwobr BAFTA, ar y gyfres A Discovery of Witches ar Sky One.
Gavin Porter
Prosiect: It Takes a Village
Mae Gavin yn hannu o Dre-biwt, Caerdydd. Maen gwneud filmiau, dogfennau ac yn creu theatr. Mae'n Athro Gwadd ym Mhrifysgol De Cymru, yn Gymrawd Clore ac wedi ennill gwobr BAFTA Cymru. Yn fwyaf diweddar, bu iddo greu, ysgrifennu a chyfarwyddo Circle of Fifths, darn o waith theatr sy'n archwilio'r cysylltiad rhwng galar, colled a cherddoriaeth wrth ddathlu traddodiadau angladdol Tre-biwt. Teithiodd Circle of Fifths ledled Cymru a Llundain. Mae Gavin wedi cyfarwyddo, cynhyrchu a chyfrannu at raglenni dogfen ar gyfer y teledu, gan gynnwys Glenn Webbe - Rugby Rebel, Steve Robinson - Cinderella Man, Black Welsh Music, ac A Killing in Tiger Bay.
Miranda Shamiso
Prosiect: Folkore
Actores yw Miranda sydd â’i gwreiddiau ym Mhrydain a Simbabwe. Mae’n aelod o BAFTA Cymru ac yn gweithio ym myd ffilm, teledu a’r theatr. Mae ei gwaith teledu a ffilm yn cynnwys Ted Lasso (Apple TV), The Winter King (ITV, MGM) a H Is For Hawk (Plan B, Film4). Eleni, dewiswyd Miranda ar gyfer rhaglen ARISE, cynllun datblygu artistiaid, blwyddyn o hyd, a gynhelir gan Fio a Chanolfan Mileniwm Cymru. Y llynedd fe’i dewiswyd ar gyfer rhaglen CULT Cymru, Mentora i Bobl Greadigol, lle cafodd ei mentora gan yr enillydd BAFTA Rakie Ayola.
Zina Wegrzynski
Prosiect: Fate & Fury
Mae Zina yn awdur ac yn swyddog datblygu. Teimla’n angerddorol dros genre arbennig, a chafodd ei chyfres oruwchnaturiol am seicig ifanc sy'n dioddef o orbryder, Love at Second Sight, ei dewis gan Eleven ac yna ar gyfer y Brit List 2022/23. Roedd ei ffilm arswyd ffug-wyddonol hefyd yn cael ei datblygu gyda New Pictures, yn ogystal â drama gomedi dywyll gyda Bad Wolf, lle'r oedd hi'n gweithio fel swyddog datblygu ac fel Awdur Preswyl. Yn olygydd sgriptiau profiadol, bu'n gweithio ym maes rhaglenni plant cyn mynd yn ei blaen i ddatblygu a golygu sgriptiau The A List (BBC/Netflix). Erbyn hyn mae'n gweithio fel swyddog datblygu llawrydd, yn edrych ar ôl prosiectau ar gyfer cwmnïau fel Little Door a Turnover Films, yn ogystal â dysgu cyrsiau ar ddarllen sgriptiau i NFTS Cymru.
Meddai Kimberley Warner, Pennaeth Cynhyrchu Ffilm Cymru Wales: “Rydym yn gyffrous iawn ein bod yn gallu cynnig yr amser a’r gefnogaeth ariannol y mae’r gwneuthurwyr ffilm talentog hyn yn eu haeddu. Bydd y cyfranogwyr yn cael mynediad at bobl amlwg yn y sector ffilm all helpu eu gyrfaoedd i ddatblygu, a byddant hefyd yn cael eu hannog i wneud cais am fuddsoddiad pellach gan Ffilm Cymru, gan weithio’n agos gyda’n tîm cynhyrchu.
“Lleisiau unigryw cyfarwyddwyr ac awduron yw craidd ein diwydiant; mae ganddyn nhw’r potensial i gyflwyno Cymru i’r byd, ac ennill gwobrau ar y llwyfan byd-eang. Gallant ddenu rhagor o waith cynhyrchu a buddsoddiad yn ôl i Gymru, gan greu gwaith sylweddol i gast, criwiau ac eraill. Allwn ni ddim aros i weld pa ganlyniadau ddaw yn sgîl y rhaglen ysbrydoledig, arloesol eleni. Gwyliwch y gofod hwn!”
Meddai Fadhili Maghiya, Prif Swyddog Gweithredol Cyswllt Diwylliant Cymru, “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer fawr o dalentau o gymunedau lleiafrifoedd ethnig wedi mynd i’r byd teledu a ffilm, a bydd y rhaglen hon yn sicr o ddatblygu eu sgiliau ymhellach. Bydd y rhaglen yn cynnig amrediad o arfau a chymorth i'r talentau yma, ac rydym yn gobeithio y bydd yn helpu amrywiaeth y sector a’r straeon ‘rydym am eu hadrodd. Edrychwn ymlaen at eu gweld yn datblygu, ac rydym yn siŵr bod gennym enillwyr BAFTA ac Oscar posibl yn y garfan hon.”
Meddai Antoine Le Bos, Cyfarwyddwr Artistig Le Groupe Ouest a LIM: “Unwaith eto, mae ein tîm yn LIM yn edrych ymlaen i gwrdd â grŵp newydd o wneuthurwyr ffilm talentog o Gymru a’u helpu i chwarae gyda phosibiliadau, i archwilio ac i greu syniadau newydd, ac i ddefnyddio cyfyngiadau i ddatblygu eu gwaith creadigol ymhellach tra, ar yr un pryd, barhau i brofi ac esblygu ein harfau a’n dulliau ni.”
Mae Space / Lle yn cael ei gwireddu yn sgil cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, Rhwydwaith y BFI a Chyngor Celfyddydau Cymru.