Mae tymor The Shape of Things to Come ar y gweill yn Volcano. Cyflwynwyd y gyfres o gomisiynau perfformio newydd ar raddfa fach, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn, gan brolog gan y myfyrwyr BTEC yn Rubicon Dance o’r enw Once Upon a 2024. Roedd eu sioe yn datblygu ar sail rhai o’r themâu o The Rising Damp & Other Tails, sef deuawd a grëwyd gan Marianne fel rhan o gyfres The Shape of Things to Come yn Volcano yn 2023.
Yr wythnos hon yn Volcano, mae'r rhaglen o gomisiynau newydd yn agor gyda Is That All There Is? gan Catherine Alexander. Yn ystod y pandemig, roedd Catherine wedi’i dadrithio â byd y theatr a phenderfynodd ddod yn weithiwr gofal cartref, gan ganfod ymdeimlad newydd o bwrpas ac eglurder o ganlyniad i weithio gyda phobl fregus a ffurfio perthynas â nhw a thosturio wrthyn nhw. Wedi brwydrau hir â gorbryder cronig, ynghyd â phoen di-baid endometriosis, mae hi’n dychwelyd i berfformio o bersbectif gwahanol, gan greu gwaith ar sail ei phrofiad fel gweithiwr gofal, gyda thosturi a chwerthin yn rhan greiddiol ohono.
Mae Catherine yn disgrifio'r sioe fel “sgwrs ar y cyd am wneud eich blynyddoedd olaf yn wych”. Mae pedwar cyfle i weld y sioe o nos Iau i brynhawn Sadwrn.
Yr ail berfformiad yn y tymor fydd Rituals of the Molikilikili gan Eric Ngalle Charles, yr wythnos nesaf o 9 i 11 Mai. Gair Bantw am Brif Brigyn yw Molikilikili. Mae ei ddarn yn ymwneud â phŵer adrodd straeon i oresgyn trawma. Mae’n gwau rhwng ieithoedd, chwedlau gwerin, a thraddodiadau llafar Bantw.
Mae mwy o waith newydd i ddod yn y tymor, gan Christopher Elson, Luke Hereford, Elin Phillips ac Akeim Toussaint Buck. Mae The Shape of Things to Come yn rhedeg tan 15 Mehefin.