Ymunwch â ni Dydd Mercher 29 Medi | 14:00 BST / 15:00 CET

Mae'r gweminar ar gael yn rhad ac am ddim ac yn gyfle i ddysgu am y gwahanol opsiynau fisa sydd ar gael i artistiaid a gweithwyr creadigol proffesiynol sy’n ymweld â’r DU dros dro ar gyfer gwaith, cyflawni ymrwymiadau, neu gyfleoedd diwylliannol byr dymor.
 

Clywch o Gary McIndoe a Shara Pledger (Latitude Law) am y gwahanol lwybrau fisa, gan ddangos astudiaethau achos i’ch helpu i ddeall pa opsiwn fyddai’n berthnasol i chi.

Ymhlith y llwybrau fisa mae:

  • Llwybr ymwelwyr
  • Ymrwymiadau taledig a ganiateir a gwyliau heb drwyddedau
  • Gwaith noddedig tymor byr Haen 5 i’r sector creadigol

I roi rhagor o fanylion, bydd panel o weithwyr proffesiynol o’r sector celfyddydau yn rhan o’r sesiwn hefyd – pobl sydd â phrofiad o reoli materion symudedd, a gallan nhw rannu gwybodaeth ymarferol am y broses.


Bydd cyfle i ofyn cwestiynau fel rhan o’r weminar. Wrth gofrestru, bydd modd ichi gyflwyno cwestiynau penodol cyn y digwyddiad.


Gallwch gofrestru am y digwyddiad yma.