Ymunwch â Gwybodfan Celf y DU a sefydliad touring artists mewn gweminar ar-lein rad ac am ddim i ddysgu am symudedd artistiaid a gweithwyr diwylliannol proffesiynol o’r DU i’r Almaen. Bydd y weminar yn trafod arosiadau byr dros dro yn ardal Schengen (uchafswm o 90 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 180 diwrnod) ynghyd â symudedd hirdymor.

Gweminar yw hon ar gyfer sefydliadau, cwmnïau celfyddydol a gweithwyr creadigol proffesiynol yn y sector yn y DU. Y nod yw rhoi trosolwg o’r pethau sydd wedi newid ers i’r DU adael yr UE a dangos sut y gall gweithwyr proffesiynol baratoi i weithio dros y ffin yn yr Almaen o hyn allan. Mae croeso i weithwyr proffesiynol yn yr Almaen sy’n awyddus i wahodd artistiaid o’r DU ymuno â’r sesiwn.

Bydd y weminar yn canolbwyntio ar symudedd pobl: artistiaid unigol, cwmnïau, technegwyr a gweithwyr diwylliannol proffesiynol eraill sy’n mynd i’r Almaen i weithio. Bydd y pynciau canlynol yn cael sylw: fisas a thrwyddedau preswylio, yswiriant iechyd, a threth.

Bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan Sebastian Hoffmann o touring artists ac yn cael ei hwyluso gan Marie Fol, Llywydd bwrdd On the Move

Sylwch y bydd y weminar hon yn cael ei chynnal yn Saesneg.

Mae Gwybodfan Celf y DU yn bartneriaeth rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru/Cyngor Celfyddydau CymruCreative ScotlandArts Council England ac Arts Council Northern Ireland.

Cofrestrwch trwy Eventbrite yma:  https://www.eventbrite.co.uk/e/webinar-artist-mobility-from-the-uk-to-the-eu-country-focus-germany-tickets-153444788493