Ym mis Mehefin, mi fydd European Dancehouse Network (EDN), mewn cydweithrediad â Gwybodfan Celf y DU yn lansio cyfres o weminarau, yn benodol ar gyfer y sector ddawns, er mwyn cefnogi gwaith a chydweithrediadau rhyngwladol i barhau.

Mi fydd y gweminar gyntaf yn cael ei gynnal rhwng 09:30-11:00 BST ar y 23ain o Fehefin, ac yn ffocysu ar symudedd artistiaid o'r DU i'r UE. Marie Fol, un o arbenigwyr y diwydiant a Llywydd Bwrdd On the Move bydd yn hwyluso'r sesiwn.

Mae'r gweminar yn gyfle i artistiaid ddawns gallu darganfod adnoddau a gwybodaeth er mwyn deall yn well beth sydd ei hangen er mwyn gweithio a theithio yn Ewrop.
 

Gan gynnwys pynciau fel

  • Visa
  • Trwyddedau Gwaith
  • Treth
  • Yswiriant 

Mi fydd digonedd o gyfleoedd i ofyn cwestiynau trwy gydol y gweminar ac mi fydd o ddiddordeb penodol i ddawnswyr cyfoes proffesiynol (unigolion a chwmnïau) yn y DU a lleoliadau a gwyliau dawns gyfoes yn yr UE.

Mae'r cydweithrediad yma'n gyfle gwerthfawr er mwyn i'r sector dod at ei gilydd, cysylltu, a chodi ymwybyddiaeth.

Gallwch gofrestru i fynychu'r sesiwn yma.

Bydd ail sesiwn yn digwydd ar yr 8fed o Fedi ac yn cyflwyno astudiaethau achos, gydag artistiaid ac ymarferwyr yn rhannu profiadau a mewnwelediad i ddeall symudedd rhyngwladol. Caiff fwy o wybodaeth ynglŷn â'r sesiwn yma ei rhannu'n agosach at yr amser.