Bydd y Gweithredydd Capsiynau yn ymuno â'r cynhyrchiad yn ystod wythnos olaf yr ymarferion a bydd yn gweithio gyda'r Cynllunwyr Goleuo a Fideo yn yr ystafell ymarfer i ddysgu'r sioe. Wedyn bydd y gweithredydd capsiynau’n gweithredu'r capsiynau creadigol drwy Qlab ar gyfer yr ymarferion technegol a gwisg a'r holl berfformiadau.

Bydd y capsiynau ar gyfer cyfuniad o Iaith Arwyddion Prydain a Saesneg llafar.

Mae'r rôl hon yn gofyn am brofiad o sgiliau darllen Iaith Arwyddion Prydain.

Pan fydd y sioe ar daith, bydd y peiriannydd fideo’n gosod y system capsiynau creadigol yn ei lle ac yn ei throsglwyddo i'r capsiynydd i'w gweithredu. Bydd y Rheolwr Technegol Teithiol yn darparu cymorth technegol ar y safle os bydd unrhyw broblemau technegol gyda gosod y capsiynau.

Bydd y Cynorthwy-ydd Technegol yn dysgu'r plot Capsiynau yn ystod y rhediad yn Theatr Clwyd i fod yng ngofal y capsiynau rhag ofn y bydd argyfwng.

Bydd y Gweithredydd Capsiynau’n cadw at holl bolisïau a gweithdrefnau Theatr Clwyd a bydd Hannah Lobb (Pennaeth Cynhyrchu Theatr Clwyd) yn rheolwr llinell arno.

Os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer unrhyw un o'r swyddi, anfonwch eich CV ar e-bost a nodi pa swyddi yr hoffech gael eich ystyried ar eu cyfer at Jenny Pearce, Cynhyrchydd ar jenny.pearce@theatrclwyd.com, gan gynnwys unrhyw ofynion mynediad yr hoffech eu rhannu hefyd.

Y dyddiad cau i anfon eich CV yw dydd Iau 16eg Hydref am 5pm, a chewch wybod os hoffem gyfarfod â chi i drafod y swyddi erbyn diwedd y dydd ar ddydd Llun 20fed Hydref.

Bydd y cyfarfodydd ar-lein gyda'r Rheolwr Cynhyrchu, Suzy Sommerville, a’r Pennaeth Cynhyrchu, Hannah Lobb, naill ai ar ddydd Mercher 22ain neu ddydd Iau 23ain Hydref.

Os oes arnoch chi angen y wybodaeth yma mewn unrhyw fformat arall, anfonwch e-bost at jenny.pearce@theatrclwyd.com
 

Dyddiad cau: 16/10/2025