Rhagfyr 5th 10am- 12pm
Riverfront, Casnewydd NP20 1HG ac ar-lien
Gweithdy Gyrfa o Lawenydd: Creu Pleser ar ôl Poen – Pobl greadigol yn canoli pleser mewn ecosystemau sy’n ffocysu ar ein brwydr.
Ymunwch â ni yn bersonol ar gyfer digwyddiad ysbrydoledig yng Nglan yr Afon, Ffordd y Brenin, Casnewydd, y DU, ac ar-lein trwy Zoom. Bydd pawb sy’n cofrestru yn cael recordiad.
Pwrpas y gweithdy hwn yw dod o hyd i lawenydd yn eich gyrfa ar ôl mynd trwy gyfnod anodd.
Byddwn yn ystyried gweithio fel artistiaid a phobl greadigol ac yn gofyn:
- Ble mae’r archwaeth am ein straeon? Sut ydyn ni’n dirnad beth sydd gennym ni i’w rannu a beth sydd gennym ni i’w warchod?
- Beth allwn ni dynnu arno i ddechrau ysgrifennu am lawenydd mewn byd sy’n diystyru ein pleser?
- Sut gallwn ni ganoli ein llawenydd pan ofynnir i ni am ein poen yn unig?
- Sut gallwn ni ysgrifennu am boen a llawenydd mewn ffordd sy’n seiliedig ar drawma?
Darganfyddwch sut i weithio fel artist a chanoli llawenydd, hyd yn oed yng nghanol yr amseroedd cythryblus hyn.
Bydd pawb sy’n cofrestru yn cael mynediad at recordiad ar ôl y digwyddiad.
Pan fyddwch yn cofrestru, byddwch hefyd yn cael diweddariadau o gylchlythyr Cardiau Post ‘From the Margins’ Grace Quantock a chan Ganolfan Gelfyddydau Glan yr Afon ond gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd. Mae eich data wedi’i ddiogelu ac rydym yn cydymffurfio â GDPR.
Mae Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn brosiect aml-randdeiliad a arweinir gan Ganolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd. Mae’n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu rhwydweithiau a gweithgareddau creadigol ar lawr gwlad.
Rhan o Hwb Busnes Creadigol Casnewydd Darllenwch ragor