Gweithdy Dogfen Hygyrchedd i Artistiaid - ar gyfer Artistiaid Anabl o’r Mwyafrif Byd-eang

April Lin 林森

Mawrth 20 2024 6-8yp

Ar-lein trwy Zoom gyda chapsiynau byw. Mae'r digwyddiad hwn am ddim.

Yn y gweithdy dogfen hygyrchedd ar-lein hwn a arweinir gan April Lin 林森, rydym yn trafod beth yw dogfen hygyrchedd, a sut i ysgrifennu un. Mae hwn yn ymarferiad i normaleiddio sgyrsiau am ofal a chymorth fel artist a/neu weithiwr celfyddydol. Mae’n arferiad wrth ofyn am ofal a nodi eich anghenion.

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer artistiaid o’r Mwyafrif Byd-eang sy’n anabl, Byddar, niwroamrywiol, neu sydd â salwch cronig ac sy’n Gymraeg neu wedi’u lleoli yng Nghymru.

Os hoffwch chi fynychu’r gweithdy, anfonwch e-bost at lucy@dacymru.com i archebu lle a gadael i ni wybod eich anghenion mynediad.