Mae Oriel Davies wedi comisiynu'r ysgrifennwr Grug Muse i weithio hefo’n gynulleidfaoedd i greu barddoniaeth ac ysgrifen greadigol mewn ymateb i’r gwaith celf yng Nghasgliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Artist Ffilm Animeiddiedig, Gemma Green Hope wedi ei chomisiynu i gyfieithu’r gwaith ysgrifenedig i mewn i ffilm wedi’i animeiddio. Bydd y darn gorffenedig yn cael ei harddangos yn Oriel Davies a bydd cyhoeddiad yn cael ei greu.

"Wrth edrych drwy gasgliad 'Celf ar y Cyd', dwi'n chwilio am gysylltiadau annisgwyl, neu ddarnau sydd yn gallu cael eu gosod mewn ymgom ddiddorol. Beth sy'n digwydd wrth gyfosod llun hardd o bwll dŵr, efo llun o dirwedd ddiwydiannol hagr? Beth yw'r themâu neu'r syniadau sy'n eu cysylltu? Clustfeinio, a chyfrannu at y sgyrsiau hynny rhwng y gweithiau yda ni’n ei wneud yn y gweithdai felly."

Grug Muse

Bydd y gweithdai yn rhedeg o 10.30y.b-1y.p ac am-ddim, a bydd diodydd poeth ar gael i'w brynnu o Gaffi Davies Cafe.

Ymunwch a Grug am weithdai ysgrifennu Gymraeg i archwilio'r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru.

Dydd Gwener 13 Medi

Dydd Gwener 11 Hydref

Mwy o ddyddiadau i'w cadarnhau

 

Dyddiad cau: 13/09/2024