Mae Rhwydwaith Celfyddydau Iechyd a Llesiant Cymru’n lansio cynhadledd celfyddydau ac iechyd gyntaf Cymru yn yr hydref.
Cynhelir ‘Gwehyddu’ ar 4 Hydref yn Sefydliad Lysaght, Casnewydd, a bydd yn canolbwyntio ar effaith cadarnhaol y celfyddydau a chreadigrwydd ar iechyd meddwl a llesiant. Mae’r tocynnau am ddim ond mae’r lleoedd yn gyfyngedig.
Ymhlith y prif siaradwyr mae:
-
Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant
-
Derek Walker, y Comisiynydd Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol
-
Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltiad Polisi Cyhoeddus Prifysgol Wrecsam Glyndŵr
• Peter Carr, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Bydd sesiynau trafod yn tynnu sylw at brosiectau iechyd creadigol enghreifftiol ledled Cymru a bydd lle i rwydweithio er mwyn cyfarfod a chysylltu gyda chydweithwyr o bob rhan o Gymru, yn ogystal â gweithgareddau creadigol dan do ac awyr agored i gefnogi eich llesiant chi.
I gael rhagor o wybodaeth ac archebu tocyn ewch i wahwn.cymru/gwehyddu