Gwasg y Mis diweddaraf AM yw Atebol/Sebra!
Mae Atebol yn wasg sydd yn cyhoeddi llyfrau, gemau ac apiau i blant a phobl ifanc. Gallwch ddysgu mwy am eu cyhoeddiadau diweddaraf, ac yr ap dysgu’r wyddor Gymraeg Ffrindiau Bach, a enillodd Ganmoliaeth Uchel yng ngwobrau Bett 2024, ar dudalen flaen AM.
Rydym hefyd yn falch o lansio sianel y wasgnod newydd, Sebra, fel rhan o’r nodwedd. Mae Sebra yn ceisio annog eu darllenwyr i gamu i’r annisgwyl gyda llyfrau sydd yn diddanu ac yn herio - gallwch brynu eu cyhoeddiadau cyntaf drwy ein Siop Lyfrau nawr. Mae Sebra hefyd yn cynnal cystadleuaeth stori fer i ddathlu eu lansiad - ewch i ddysgu mwy am sut allwch chi gymryd rhan cyn y dyddiad cau ar Fawrth y 1af!
Dywedodd Owain Saunders-Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Atebol: “Rydyn ni wrth ein boddau bod Atebol a Sebra yn weisg y mis AM Cymru ar gyfer Chwefror. Mae’r fath gydnabyddiaeth yn golygu llawer i ni, gyda gwasg Atebol newydd ddathlu carreg filltir o ugain mlynedd ers ei sefydlu nôl yn 2003 yn Aberystwyth. Prin roeddem yn dychmygu bryd hynny y byddai’r gwasgnod yn tyfu i fod yn un o gyhoeddwr llyfrau plant mwyaf Cymru, diolch i gefnogaeth ein staff amryddawn a’n hawduron, darlunwyr a dylunwyr disglair. Yn ddiweddar, gwnaethon ni gamu i’r annisgwyl drwy lansio ein gwasgnod newydd i oedolion, Sebra. Ein gobaith gyda Sebra, sydd eisoes wedi profi llwyddiant ysgubol gyda’i gyhoeddiadau cyntaf, yw cynnig rhywbeth gwahanol sydd ag apêl eang i ddarllenwyr efallai nad ydynt yn darllen llyfrau Cymraeg yn aml. Rydyn yn llawn cyffro am y dyfodol ac yn diolch i ddarllenwyr Cymru am eu cefnogaeth ar hyd y daith.“
Mwynhewch y cyfan ar dudalen flaen AM nawr!