Mae llawer o leoliadau celfyddydol ledled Cymru yn dywyll a gwag ers misoedd. Bu rhai yn cynnig gweithgarwch cyfranogol ar-lein. Ond yn sgîl llacio cyfyngiadau’r pandemig gan Lywodraeth Cymru, gall cynulleidfaoedd eto ymweld ag orielau a lleoliadau celfyddydol.

Gwahoddir lleoliadau celfyddydol sy'n bwriadu ailagor i ddefnyddio'r hashnodau #celfaragor neu #artsareopen y mae Cyngor Celfyddydau Cymru eisoes yn eu defnyddio i dynnu sylw at yr ailagor.

Meddai Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae orielau, theatrau a chanolfannau a lleoliadau celfyddydol ledled Cymru ar agor neu'n barod i ailagor. Maen nhw'n gweithio'n galed i groesawu'r cyhoedd mewn ffyrdd sy'n cadw at ganllawiau cyfredol y Llywodraeth gan greu lleoedd diogel. Ond mae cyfleoedd eisoes i weld arddangosfeydd newydd a chefnogi gwneuthurwyr ac artistiaid Cymru drwy eu mannau manwerthu a’n Cynllun Casglu."

Er bod Cymru â chyfyngiadau o hyd, gall theatrau hefyd nawr gynnal digwyddiadau os gall y gynulleidfa ymbellhau’n ddiogel. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei Chwestiynau Cyffredin ar ei gwefan gydag adran benodol i’r celfyddydau a digwyddiadau. Mae’n egluro sut y gall lleoliadau celfyddydol weithio. Dylid ceisio cyngor neu eglurhad am amgylchiadau penodol yn uniongyrchol oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Mae llawer o sefydliadau ledled Cymru wedi cael arian gan ddwy rownd o Gronfa Adfer Ddiwylliannol Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo gydag ailagor yn ddiogel. Bydd rhagor o fanylion am y rhai sy'n cael arian yn rownd ddiweddaraf y Gronfa yn fuan.

Diwedd                                                                     26 Mai 2021