Mae Gorwelion, y prosiect blaenllaw sy’n rhoi llwyfan i gerddoriaeth Cymru, yn dathlu ei ddegfed ben-blwydd. Dros y ddegawd ddiwethaf, mae’r prosiect wedi bod yn hollbwysig wrth gefnogi a hybu lleisiau artistiaid a labeli o Gymru, gan feithrin sîn gerddoriaeth ffyniannus ac amrywiol ledled y wlad. Partneriaeth yw Gorwelion rhwng BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru. Nod Cronfa Lansio Gorwelion, sy’n rhan o’r rhaglen, yw buddsoddi mewn doniau cerddorol gwreiddiol o Gymru a rhoi llwyfan iddynt.

 Heddiw, cyhoeddodd Cronfa Lansio Gorwelion y bydd yn rhoi cyllid gwerth £60,000 i gyd i 34 o egin artistiaid a labeli ym mhob cwr o Gymru.

 Ymhlith yr artistiaid sy’n cael eu cefnogi eleni mae Marged, sy’n aelod o Self Esteem ac yn enwog am ei llais swynol a’i phresenoldeb hudolus ar y llwyfan; LUVLY, offerynnwr amryddawn sy’n creu seinluniau rhyfeddol a’r rheini’n cyfuno rhythmau Affricanaidd eu naws â bîts cyfoes; Monet, sef pedwarawd ôl-bync arbrofol; Buddug, y gantores a’r gyfansoddwraig o Frynrefail; a Korrupted, sy’n amlwg iawn yng nghymuned rapio Wrecsam.

 Yn ystod y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae Gorwelion wedi rhoi cymorth uniongyrchol i dros 450 o artistiaid, gan fuddsoddi’n sylweddol yn ecosystem gerddorol Cymru. Rhai o’r artistiaid nodedig sydd wedi cael cymorth dros y blynyddoedd yw Adwaith, L E M F R E C K, Buzzard Buzzard Buzzard, Sage Todz, Panic Shack a Melin Melyn. Mae’r cyllid hollbwysig hwn wedi rhoi cyfle i artistiaid ddatblygu eu gyrfaoedd, gan eu galluogi i dreulio amser mewn stiwdios, hyrwyddo’u deunydd, prynu offer a chreu fideos cerddorol.

Meddai Bethan Elfyn, Rheolwr Prosiect Gorwelion:

“Ar ôl dathlu degawd o raglen Gorwelion yn ddiweddar, mae’n hyfryd gallu dechrau’r calan hwn drwy ddathlu a darganfod pob mathau o ddoniau newydd. Mae hwn yn teimlo’n gyfnod hynod o gyffrous yn y byd cerddoriaeth yng Nghymru, ac rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni’n gallu cefnogi’r grŵp hwn o artistiaid eleni mewn ffordd ymarferol a phenodol. Mae ein diolch, fel wastad, i’n partneriaid yn BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Maen nhw wedi annog cymaint o greadigrwydd cynnar yn y celfyddydau drwy’r gronfa hon, ac wedi cefnogi Gorwelion i ddatblygu doniau dros y 10 mlynedd anhygoel ddiwethaf.”

Y Loteri Genedlaethol sy’n rhoi cyllid i Gronfa Lansio Gorwelion, a Chyngor Celfyddydau Cymru sy’n dyrannu’r arian.

Meddai Lisa Matthews, Rheolwr Portffolio yng Nghyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae hi wedi bod yn fraint parhau i gydweithio â BBC Cymru i gefnogi criw mor gryf, amrywiol a chyffrous sy’n creu cerddoriaeth yng Nghymru eleni, a hynny drwy’r Gronfa Lansio a thrwy waith ehangach rhaglen Gorwelion. Mae hyn yn bosib diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld ac at glywed canlyniadau’r buddsoddiad hwn mewn doniau creadigol newydd.”

Rwy’ ar ben fy nigon fy mod i’n un o’r rheini sy’n cael arian gan y Gronfa Lansio yn 2025. Bydd hyn yn hwb a hanner i fy ngyrfa, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at fynd i’r stiwdio i recordio fy mhrosiect newydd. Diolch o galon, Gorwelion.

Llinos Emanuel 

Drwy Gronfa Lansio Gorwelion, rwy’n edrych ymlaen at ddod â chymuned greadigol Caerdydd at ei gilydd fel rhan o brosiect ar y cyd sy’n hybu doniau lleol, yn dathlu diwylliant, ac yn rhoi siâp i’r sŵn mawr nesaf o’r Deyrnas Unedig.

LUVLY

Bydd y Gronfa Lansio yn ein helpu i ddatblygu UNTRO ymhellach fel cysyniad, gan gefnogi artistiaid Cymraeg newydd i recordio, cynhyrchu a rhyddhau eu traciau cyntaf erioed. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y system yn datblygu yn 2025 ac at allu cefnogi’r don nesaf o artistiaid sy’n cymryd eu camau cyntaf i ryddhau cerddoriaeth yng Nghymru

Gwefan gerddoriaeth annibynol Klust