Mae Cronfa Lansio Gorwelion wedi cyhoeddi gwobrau gwerth dros £63,000 i bedwar deg naw o artistiaid newydd o Gymru, y swm mwyaf ers ei sefydlu yn 2014. Mae’r gronfa’n rhan o Gorwelion, sef partneriaeth rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru sy’n buddsoddi mewn talent gerddorol wreiddiol ac yn rhoi llwyfan iddi.  

Mae’r artistiaid sy’n derbyn y gwobrau i ddatblygu eu gyrfaoedd cerddorol yn cynnwys yr auteur traws dramatig Alice Low a enillodd Wobr Trisgell yng Ngwobrau Cerddoriaeth Cymru 2021; ffefrynnau BBC 6Music The Bug Club; aelod o Ladies of Rage Asha Jane; y seren bop newydd Hana Lili sydd wedi denu sylw New Music Friday Spotify; y gyfansoddwraig lwyddiannus Rebecca Hurn; y cyffro feiral ar tic-toc K(E)NZ; cerddorion Libertino records KIM HON; enillydd Green Man Rising Teddy Hunter; yr MC o Gaerdydd Mace the Great sydd wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer SXSW2022, a llawer mwy.

Ar adeg pan fo’r cyfnodau clo wedi achosi ansicrwydd i gerddoriaeth fyw a rhyddhau cerddoriaeth, mae Cronfa Lansio Gorwelion 2022 yn cyflwyno blwyddyn lwyddiannus o wobrau, gyda £63,000 a mwy o wobrau’n cael eu cynnig i gefnogi gwaith talent newydd o bob cwr o’r wlad ac yn cwmpasu holl sbectrwm y byd cerddorol yng Nghymru.  Mae’r rhai sy’n derbyn y gwobrau’n cynnwys arlwy gref o artistiaid o gymuned MOBO, artistiaid cyffrous yn y byd cerddoriaeth Gymraeg, ac artistiaid newydd sy’n ennill cydnabyddiaeth ac yn magu eu cynulleidfaoedd ar lwyfannau a recordiau.

Ers ei sefydlu wyth mlynedd yn ôl, mae Cronfa Lansio Gorwelion wedi cael ei rhoi i fwy na 250 o artistiaid, o dros 60 o wahanol drefi yng Nghymru, gan wario £273,000 yn ecosystem cerddoriaeth Cymru. Mae’r arian ar gyfer y Gronfa Lansio ar gael drwy’r Loteri Genedlaethol, ac yn cael ei ddyrannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae llawer ohonynt wedi cael eu cefnogi yn eu gwaith creadigol, gyda’r gronfa’n eu galluogi i dreulio amser mewn stiwdio, comisiynu ffotograffiaeth a gwaith celf, ar gyfer hyrwyddo, cael offer, cynhyrchu fideos a chostau teithio. I’r pedwar deg naw o artistiaid sy’n cael cyllid eleni, dyma foment allweddol yn eu taith, a allai gynnwys gwaith datblygu artistiaid, cyhoeddusrwydd a setiau mewn gwyliau.

Dywedodd Lisa Matthews-Jones, Rheolwr Portffolio yng Nghyngor Celfyddydau Cymru: “Roeddem wrth ein bodd o weld nifer a chyfoeth y ceisiadau a ddaeth i law. Mae llawer iawn o dalent cerddorol yng Nghymru ar draws pob genre ac ymhob cornel, ac mae’r Gronfa Lansio yn gyfle hollbwysig i ddyrchafu’r artistiaid hyn” 

Dywedodd Bethan Elfyn, Rheolwr Prosiect gyda Gorwelion, “Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru a BBC Cymru am gefnogi’r prosiect hwn yn ei 8fed flwyddyn, sy'n rhoi’r camau cyntaf hollbwysig i artistiaid yng Nghymru. Mae’n bwysicach nag erioed i gysylltu cymuned, i gredu yn yr artistiaid a’u taith ac i roi buddsoddiad yn niwydiant cerddoriaeth Cymru, a hynny yn yr eco-system gyfan o amgylch yr artistiaid – o’r stiwdios, i gynhyrchwyr, labeli, cwmnïau hyrwyddo a mwy. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae’r prosiectau cerddoriaeth hyn yn datblygu.” 

Dyma’r pedwar deg naw o artistiaid a fydd yn derbyn cyllid gan Gronfa Lansio Gorwelion 2022:

  • ALICE LOW – CAERDYDD
  • ANWAR SIZBAR, CAERDYDD 
  • AISHA KIGS – CAERDYDD
  • ALEKXSANDR, CAERDYDD
  • ARTSHAWTY - CAERDYDD
  • ASHA JANE - CAERDYDD
  • BANDICOOT - ABERTAWE 
  • THE BUG CLUB – CALDICOT, SIR FYNWY 
  • CHASING SHADOWS – SIR DDINBYCH 
  • CELAVI – BANGOR
  • CLWB FUZZ – CAERDYDD 
  • CERYS HAFANA – MACHYNLLETH 
  • CI GOFOD – MAESTEG
  • CUPSOFTE – CAERDYDD
  • GWENNO MORGAN – BANGOR 
  • HANNA LILI - ABERSILI 
  • HEMES – PONTYPRIDD
  • TEDDY HUNTER – CAERDYDD
  • JAMES AND THE COLD GUN – CAERDYDD 
  • K(E)NZ – ABERTAWE
  • KINNIGAN - CAERDYDD
  • KIM HON – CAERNARFON
  • HARRY JOWETT – BRO MORGANNWG 
  • L E M F R E C K – GWENT 
  • LLOYDY LEW – TORFAEN
  • LUKE RV – CASTELL-NEDD
  • MACE THE GREAT – CAERDYDD 
  • MALAN – CAERNARFON
  • MALI HAF – CAERDYDD 
  • MANTARAYBRYN – CAERDYDD 
  • MIRARI MORE – CAERDYDD 
  • NIQUES - CAERDYDD
  • PANTA RAY – CAERDYDD 
  • REBECCA HRN - PORTHCAWL
  • ROMAN YASIN – CAERDYDD 
  • SKYLRK – DYFFRYN NANTLLE
  • SOREN ARAUJO - CARDIFF
  • SYBS – CASNEWYDD 
  • SU SANG SONG – CAERDYDD
  • SZWE – CAERFYRDDIN 
  • TARA BANDITO – CAERDYDD 
  • TAPESTRI – SIR BENFRO/ SIR FON
  • THALO - PENYGROES 
  • WINGER RECORDS – SIR GAERFYRDDIN 
  • WOBBLI BOI – SIR GAERFYRDDIN 
  • WYNT – RHONDDA 
  • VOYA – CAERDYDD 
  • YAZMEAN – CAERDYDD 
  • XL LIFE – CAERDYDD

Dywedodd Ci Gofod, un o’r rhai sy'n derbyn cyllid: “Rwy’n falch o gael cefnogaeth gan Gorwelion ar gyfer ryddhau fy EP. Diolch i’r cyllid, gall fy EP gael ei chwblhau gan beirianwyr sain blaenllaw a chreu ‘cylchgrawn’ ar-lein lle gall gwrandawyr ddysgu mwy amdanaf i a fy ngherddoriaeth. Bydd y EP yn cael ei lansio yr haf yma, a bydd yn ychwanegu ffync a neo-soul Gymraeg i grochan y sîn gerddoriaeth Gymreig.”

Ychwanegodd artist arall, Soren Araujo: “Rydw i mor hapus o gael fy newis, allwn i ddim bod yn fwy diolchgar. Bydd Cronfa Lansio Gorwelion yn cael effaith fawr ar fy ngyrfa fel cerddor. Bydd yn fy ngalluogi i recordio EP o’r diwedd, gan gydweithio â cherddorion eraill o Gymru, i arddangos harddwch yr iaith Gymraeg a fy mamieithoedd (Portiwgaleg a Creole). Ymhen amser, bydd yn fy helpu i fagu gwreiddiau yn y wlad brydferth hon y mae fy nheulu a minnau’n ei galw’n gartref.”

Cafodd yr artistiaid eu dewis gan banel yn cynnwys Leigh Jones (PRS), Laura Herd (Queens Hall), Helen Weatherhead (BBC 6Music), Gethin Pearson (Cynhyrchydd), Esyllt (DJ Dirty Pop) Rachel K Collier (Cerddor), DJ Jaffa, Lekan (Intricate Management), Kima Otung (Cerddor) Elan Evans (Clwb Ifor Bach), Hollie (Adwaith/ Cerddor), Ifan Davies (BBC Radio Cymru/ Swnami/ Cerddor) Natalie Jones (Focus Wales) ac Andrew Ogun (Cyngor Celfyddydau Cymru).

Drwy gydol mis Chwefror, bydd modd i Artistiaid y Gronfa Lansio gael sesiynau pwrpasol ar-lein, wrth i Gorwelion gynnal cyfres o sgyrsiau cerddoriaeth ar gyngor busnes, marchnata a hyrwyddo, gan gynnwys gwesteion arbenigol. 

Hefyd ar y gweill y mis yma, byddwn yn dychwelyd i ddigwyddiadau byw gyda sioe Dod Adre yng Nghlwb Ifor Bach ar gyfer Mace The Great, llysgennad Venue Week, gyda chefnogaeth Juice Menace a Lily Beau. 

Mae Gorwelion yn bwriadu dychwelyd i Wythnos Cymru yn Llundain ym mis Mawrth, ac yna taith o amgylch Lleoliadau Cerddoriaeth Cymru.  

I gael rhagor o fanylion, ewch i bbc.co.uk/gorwelion

Mae lluniau a biogs ar gael yn y linc yma

-DIWEDD-

I gael gwybodaeth i'r cyfryngau, gan gynnwys lluniau, cysylltwch ag Elin Rees – elinreescomms@gmail.com | 07917 308329