Cymerwch ran yn ein gweithdy ysgolion rhad ac am ddim yn seiliedig ar ein Hystorfa Ddysgu Go Tell the Bees

Dros y flwyddyn i ddod, mae gennym nifer o brosiectau ar y gweill i ymgysylltu â chymunedau ledled Caerdydd, diolch i gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy Gyngor Caerdydd.

Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym yn cynnig gweithdai am ddim i ysgolion cynradd i ddisgyblion 7-11 oed o 3 Mehefin - 22 Gorffennaf yn seiliedig ar rai o'n hadnoddau addysgol ar-lein. Mae gennym amrywiaeth o weithgareddau y gellir eu haddasu i weddu i anghenion y disgyblion yr hoffech iddynt gymryd rhan.

Gall disgyblion archwilio ein cysylltiad â’r byd naturiol a gyda’n gilydd trwy adnoddau a grëwyd gennym ar gyfer prosiect o’r enw Go Tell the Bees, sy'n rhan o ystorfa o wybodaeth a gweithgarwch NTW TEAM ac wedi’i ysbrydoli gan 7 Gweithred Syml.

Mae'r Ystorfa Ddysgu, a welir ar Hwb, wedi’i chreu i ategu’r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd i Gymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a ddatblygwyd gan chwe ymarferydd creadigol gyda thri athro ymgynghorol.

Cysylltwch ag Abena, ein Cydlynydd Pobl Ifanc neu Rachel, ein Cynhyrchydd Cydweithio i archebu gweithdy neu ddarganfod rhagor.

Wedi'i chefnogi gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd.