Rydym am sbarduno rhwydwaith o ysgolion i ddyfeisio a darparu prosiectau arloesol a chreadigol sy'n archwilio themâu allweddol Cynefin: Pobol Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru.

Beth rydyn ni'n edrych amdano

Rydym yn gwahodd ysgolion o bob rhan o Gymru i fod yn rhan o'n cynnig dysgu creadigol newydd a fydd yn cysylltu ysgolion ag Ymarferwyr Creadigol gyda'i gilydd. Rydym yn gobeithio gweithio gydag Ymarferwyr Creadigol o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Trwy'r cynnig hwn ein nod yw sicrhau y bydd athrawon a dysgwyr yng Nghymru yn cael cyfle i:

  • Archwilio hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas amlddiwylliannol
  • Archwilio profiadau a chyfraniadau amrywiol pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, ddoe a heddiw
  • Gweithio ochr yn ochr ag Ymarferwyr Creadigol mewn amgylchedd dysgu i wella ansawdd yr addysgu a'r dysgu 
  • Cefnogi ysgolion i baratoi ar gyfer Cwricwlwm Cymru 2022

Cefndir

Mae Cynefin: Pobol Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru yn tynnu ar gryfderau'r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol sydd wedi helpu ysgolion i archwilio syniadau ac ymagweddau newydd at addysgu a dysgu dros y 5 mlynedd diwethaf.

Wrth wraidd y cynllun mae cyd-adeiladu, cyd-gyflwyno, ffocws ar lais y disgyblion a rhoi’r rhyddid iddyn nhw wneud penderfyniadau. Mae’n seiliedig ar waith ymholiadol sy'n defnyddio’r celfyddydau ac addysgeg greadigol i archwilio themâu, materion a heriau ar draws pob maes dysgu.

Beth fydd y cynnig yn ei olygu?

  • Bydd ysgolion yn gweithio ar y cyd ag Ymarferydd Creadigol i gynllunio prosiect dysgu creadigol sy'n archwilio elfennau o Cynefin: Pobol Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru.
  • Gwahoddir ysgolion llwyddiannus i fynychu cwrs hyfforddi undydd ar-lein a ddarperir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, er mwyn sicrhau eu bod yn hollol barod ar gyfer y prosiect. Dangosir y dyddiadau hyfforddi yn yr amserlen isod.
  • Bydd ysgolion yn gweithio ochr yn ochr â'u Ymarferydd Creadigol dynodedig i gyflwyno'r prosiectau hyn i ddosbarth o ddysgwyr. Gall hyn olygu criw o ddysgwyr sydd wedi cael eu tynnu ynghyd o bob rhan o'r ysgol (ni ddylai hyn fod yn fwy na 30 o ddisgyblion)
  • Fel ysgol, byddwch yn myfyrio trwy gydol y prosiect ac yn cynnal gwerthusiad terfynol. Bydd cyfleoedd hefyd i chi rannu eich canfyddiadau â phobl greadigol a gweithwyr proffesiynol addysgol eraill ledled Cymru

Cyllid a chefnogaeth

Rydym yn edrych i weithio gyda hyd at 25 o ysgolion fel rhan o Cynefin: Pobol Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru.

Bydd pob ysgol yn derbyn 16 diwrnod o gefnogaeth gan Ymarferydd Creadigol a gyflogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Yn ogystal â hyn, bydd pob ysgol yn derbyn grant o £2000 tuag at adnoddau i gefnogi'r prosiect.

Bydd yr athro dynodedig yn mynychu cwrs hyfforddi undydd ar-lein a ddarperir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac yn derbyn cyfleoedd i gydweithio ag ysgolion eraill ledled Cymru i ffurfio rhwydwaith dysgu.

Pwy sy'n gymwys

Mae'r cynllun yn agored i bob ysgol gynradd ac uwchradd a gynorthwyir gan awdurdodau lleol a chymorth gwirfoddol, gan gynnwys ysgolion arbennig a chyfleusterau addysg arbenigol. Mae croeso i ysgolion sydd wedi derbyn grant Ysgolion Creadigol Arweiniol yn y gorffenol i wneud cais.

Nid yw ysgolion sy'n derbyn cyllid grant ar hyn o bryd gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn gymwys i wneud cais.

Sut i wneud cais

Gellir dod o hyd i ffurflen gais ar gyfer Cynefin: Cymru Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yma.

Dylai'r cais hwn gael ei gwblhau gan yr athro a fydd wedi'i ddynodi i redeg y prosiect.

Mae'r ceisiadau'n cau hanner dydd, 15 Mawrth 2021.

Cydraddoldeb

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn print bras, hawdd ei darllen, braille, sain ac Iaith Arwyddion Prydain a byddwn yn ceisio darparu gwybodaeth mewn ieithoedd heblaw Cymraeg neu Saesneg ar gais.

Rydym yn gweithredu Polisi Recriwtio Cyfle Cyfartal ac yn croesawu cyflwyniadau o bob rhan o'r gymuned yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Amserlen

Hanner dydd, 15 Mawrth

Dyddiad cau ceisiadau ysgol

wythnos 18 Mawrth

Hysbysu ysgolion ynglyn â’u cais

14 & 15 Ebrill

Cwrs hyfforddi undydd ar-lein ar gyfer ysgolion llwyddiannus

wythnos 19 Ebrill

Cychwyn cynllunio prosiectau

wythnos 3 Mai

Rhannu cynllunio prosiect gyda Chyngor Celfyddydau Cymru

10 Mai – 2 Mehefin

Cyflawni prosiect

wythnos 5 Gorffennaf

Digwyddiadau rhannu cenedlaethol

Gwybodaeth bellach

Os hoffech wneud cais, awgrymwn yn gryf eich bod yn mynychu un o'n sesiynau briffio ar-lein fel y manylir isod. Bydd hwn yn gyfle i ddarganfod mwy am y cynnig a gofyn unrhyw gwestiynau.

Dydd Gwener 5 Mawrth 2021 12:00yh - 1:00yp 

Archebu lle yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch ag un o aelodau’r tîm dysgu creadigol isod.

Daniel.trivedy@celf.cymru  Tel: 07710026085

Shaun.featherstone@celf.cymru Tel: 07710026080

Gwenfair.hughes@celf.cymru  Tel:  07710026084