Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wrthi ar hyn o bryd yn cynnal ymchwil i effaith y cynnydd mewn costau byw ar y sector. Rydym yn gofyn i unigolion a sefydliadau rannu eu profiad trwy arolwg byr – ond mae’r dyddiad cau y Sul hwn, 25 Medi, felly mae amser yn brin!

Ein nod yw nodi unrhyw heriau posibl y gall sefydliadau, artistiaid, cynulleidfaoedd, cyfranogwyr, unigolion a chymunedau eu hwynebu yr hydref hwn a thu hwnt.

Mae eich barn yn bwysig i ni – cliciwch yma i gael manylion pellach a chyfrannu

DIWEDD 21 Medi 2022