Mae Archif Ddarlledu Cymru yn chwilio am grwpiau yn Wrecsam, Sir y Fflint, neu Sir Ddinbych i brofi casgliad archif BBC Cymru, ITV Cymru ac S4C o'r 100 mlynedd diwethaf o hanes darlledu yng Nghymru.
Rhwng nawr ac Awst 2025 rydym yn chwilio am grwpiau a hoffai:
- Weld clipiau o'r archif yn eich sesiynau grŵp
- Gymryd rhan mewn trafodaethau am yr archif darlledu
- Ymateb yn greadigol i'r archif gyda sesiynau wedi'u hwyluso am ddim
Rydym yn cynnig sesiynau ‘galw heibio’ i grwpiau, gyda’r cyfle i weithio ar raglen hirach o ymgysylltu creadigol dros 6 mis i gyd-greu ymateb i’r archif a fydd yn cael sylw yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Yr Eisteddfod Genedlaethol yw gŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop a gynhelir mewn gwahanol rannau o Gymru bob blwyddyn, a bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn Wrecsam yn 2025.
Rydym yn croesawu grwpiau sy’n gweithio mewn sawl iaith, grwpiau heb gynrychiolaeth a grwpiau ag anghenion mynediad ychwanegol.
I gael rhagor o wybodaeth, ac i fynegi eich diddordeb, cysylltwch â Thîm Prosiect Gogledd Ddwyrain Cymru drwy e-bost ar:
natasha.borton@llyfrgell.cymru neu sian.lloyd.jones@llyfrgell.cymru