Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Québec yn gwahodd cyflwyniadau i raglen Cydweithredu Cymru-Québec mewn 3 sector, gan gynnwys y celfyddydau a diwylliant. Mae cynigion y prosiect yn agored i ddisgyblaethau artistig megis, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • gwaith clyweledol;
  • llenyddiaeth a chyhoeddi;
  • y celfyddydau perfformio;
    ac/neu
  • y celfyddydau gweledol a digidol.

Gallai'r prosiectau fod yn waith cyfnewid artistiaid dwy ffordd gyda chyfleoedd ar gyfer datblygiad gyrfa, creadigol a rhwydwaith i'r holl artistiaid dan sylw; cyd-gynyrchiadau/cyd-greadigaethau y mae'r ddau bartner yn ymgysylltu'n llawn â nhw/yn ymroddedig; neu gydgomisiynu prosiectau/mentrau.

Gallai’r prosiectau fod yn gyfnewid dwy ffordd rhwng artistiaid gyda chyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd, gwaith creadigol a gwaith datblygu rhwydweithiau ar gyfer pob artist; cynyrchiadau ar y cyd/gwaith cynhyrchu ar y cyd lle y mae’r ddau bartner wedi ymgysylltu’n llwyr/wedi ymrwymo’n llwyr; neu gydgomisiynu prosiectau/mentrau.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
25 Gorffennaf 2022

 

 

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Québec yn cynnal sesiwn wybodaeth ar-lein ar y cyd ar gyfer y rhai sydd â diddordeb yn y rhaglen hon ar Ddydd Mercher 15 Mehefin am 3:00pm BST.

Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn yma.

Bydd cyfieithu ar y pryd o'r Saesneg i'r Ffrangeg, ac o'r Gymraeg i'r Saesneg yn y digwyddiad hwn. Bydd capsiynau byw yn Saesneg hefyd.