31ain Hydref – 2il Tachwedd

Mae’r Alwad Agored flynyddol i fandiau/cerddorion berfformio fel rhan o’r Llwybr Cerdd ar gyfer pumed ŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi bellach ar agor. Cynhelir yr ŵyl rhwng 31ain Hydref a 2il Tachwedd eleni.

Mae’n agored i artistiaid proffesiynol sefydledig a’r rheiny sy’n dod i’r amlwg o Gymru ac Iwerddon. Gall partïon â diddordeb wneud cais ar-lein nawr trwy othervoices.ie gyda dyddiad cau o 12fed Ebrill ar gyfer ceisiadau. Cynhelir dros 80+ o berfformiadau mewn nifer o leoliadau ar draws Aberteifi dros benwythnos yr ŵyl. Bydd tîm cerdd Lleisiau Eraill yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 31ain Mai.

“Bob blwyddyn rydym wrth ein bodd gyda'r ymateb rydym yn cael i'n Galwad Agored; mae’n gyffrous iawn gweld beth sydd allan yno a gweld artistiaid newydd yn dod drwodd. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r don newydd gyfoethog ac amrywiol o dalent yr ydym yn ei weld ar draws y genres ar ddwy ochr Môr Iwerddon”, meddai Dilwyn Davies, Prif Weithredwr y Mwldan.

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y digwyddiad yn 2023, mae bandiau arddwrn Pris Cynnar ar werth nawr am £35 yn unig, a chynghorir archebu’n gynnar gan fod yr holl docynnau wedi’u gwerthu ar gyfer yr ŵyl y llynedd. Mae nifer cyfyngedig o docynnau i’r rheiny dan 18 hefyd ar werth am £10 yn unig. Mae bandiau arddwrn yn rhoi mynediad anghyfyngedig i aelodau'r gynulleidfa i'r Llwybr Cerdd a'r sesiynau Clebran dros dridiau. Hefyd, bydd yn eu cynnwys yn y raffl i ennill y tocynnau y mae galw mawr amdanynt i’r perfformiadau byw cartrefol yn Eglwys y Santes Fair, a fydd yn cael eu ffrydio’n gydamserol ar-lein yn fyd-eang a’u recordio i’w darlledu ar y teledu yn y dyfodol.

Bellach yn ei phumed flwyddyn, mae Lleisiau Eraill Aberteifi wedi dod yn ddigwyddiad y mae disgwyl brwd amdano yng nghalendr gwyliau’r DU ac yn rhan sefydledig o deulu Other Voices. Dros y blynyddoedd, mae rhwydwaith Other Voices wedi ymestyn i Ferlin, Llundain, Efrog Newydd, Austin, Belfast a thu hwnt. Gyda’r DJ Cerddoriaeth BBC6 a Chyflwynydd arferol Lleisiau Eraill Huw Stephens wrth y llyw, gall mynychwyr yr ŵyl eleni ddisgwyl lein-yp anhygoel arall o gerddoriaeth arloesol o bob math o genre, yn cynnwys popeth o hip-hop, grime ac electronica i ôl-bync, traddodiadol a gwerin, gydag artistiaid sy’n amlygu’r cysylltiadau diwylliannol rhwng y ddwy genedl hyn.

Bydd pris bandiau arddwrn yn codi i £50 o 1af Gorffennaf. Am fwy o wybodaeth a diweddariadau pellach wrth iddyn nhw ddigwydd ewch i othervoices.ie neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol [@Othervoiceslive a @TheatrMwldan].

Mae Lleisiau Eraill Aberteifi yn cael ei lwyfannu gyda chefnogaeth a buddsoddiad Llywodraeth Cymru a’r Adran Twristiaeth, Diwylliant, y Celfyddydau, y Gaeltacht, Chwaraeon a’r Cyfryngau ac fe’i cynhyrchir gan South Wind Blows mewn partneriaeth â Mwldan a Triongl. Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Ffyniant Bro gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ceredigion. Bydd y digwyddiad yn cael ei ffilmio gan Triongl i'w ddarlledu yn ddiweddarach ar RTÉ.

 

DIWEDD/

 

Cysylltwch â Tamsin Davies tamsin@mwldan.co.uk am fanylion pellach.

 

Lleisiau Eraill Aberteifi 2023:

https://youtu.be/tYZ_O8JXS0M

 

Beth yw Lleisiau Eraill Aberteifi? Mae Huw Stephens yn egluro:

https://www.youtube.com/watch?v=0F9PNmDhRCo

 

Delweddau cydraniad uchel i’r wasg eu lawrlwytho:

https://www.dropbox.com/scl/fo/mbky5bii61qhxiovuff8n/h?rlkey=c1j8urwpb5c4ysaysxbl050ji&dl=0

 

Mae cofrestru ar gyfer bandiau arddwrn ar agor nawr trwy othervoices.ie

 

Caiff manylion llawn yr ŵyl eu rhyddhau yn ystod yr wythnosau nesaf, gan gynnwys manylion y Galwad Agored i gerddorion. Dilynwch ni / Cofrestrwch nawr am fwy o wybodaeth:

@OtherVoiceslive othervoices.ie

@TheatrMwldan  mwldan.co.uk

 

Mae Lleisiau Eraill Aberteifi yn cael ei lwyfannu gyda chefnogaeth a buddsoddiad Llywodraeth Cymru a’r Adran Twristiaeth, Diwylliant, y Celfyddydau, y Gaeltacht, Chwaraeon a’r Cyfryngau ac fe’i cynhyrchir gan South Wind Blows mewn partneriaeth â Mwldan a Triongl. Caiff y prosiect hwn ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chymorth Cronfa Cynnal y Cardi gan Gyngor Sir Ceredigion. Bydd y digwyddiad yn cael ei ffilmio gan Triongl i'w ddarlledu'n ddiweddarach ar RTÉ.

Cychwynnodd Other Voices fel digwyddiad cerddorol untro mewn eglwys fechan yn Dingle, pentref pysgota bychan yng ngorllewin Iwerddon. Dros y 23 mlynedd diwethaf, mae’r Other Voices wedi tyfu.

Bellach, mae Other Voices yn ddigwyddiad sefydlog yn y calendr cerddorol – digwyddiad sy’n ‘rhaid ei fynychu’ i berfformwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd. Mae Other Voices wedi arwain at greu cyfres deledu gerddorol ryngwladol, ac wedi hynny fe ddatblygodd ffilmio’r gyfres honno yn ŵyl gerdd, a digwyddiad twristiaeth annibynnol sy’n dathlu’r lleol ar raddfa fyd-eang. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Other Voices wedi teithio i Lundain, Belfast, Efrog Newydd, Austin, Texas a Berlin.

 

Uchafbwyntiau Lleisiau Eraill:

Amy Winehouse: https://www.youtube.com/watch?v=a1xFsoRYrds

Hozier: https://www.youtube.com/watch?v=0_oGM2o2y0Y

Sam Fender: https://www.youtube.com/watch?v=bCrwhejbCxo

Fontaines D.C: https://www.youtube.com/watch?v=OigDCDM5_Qc

The Murder Capital: https://www.youtube.com/watch?v=r19CdbbYQMk

Sigrid: https://www.youtube.com/watch?v=m9jwHvfgMjE

YoungFathers: https://www.youtube.com/watch?v=C01pXeWoGFk

 

www.othervoices.ie

@othervoiceslive

 

 

Mwldan

Mae’r Mwldan yn Ganolfan Celfyddydau a sinema annibynnol a leolir yn Aberteifi. Mae'r ganolfan yn cyflwyno rhaglen fyw aml-gelfyddyd ac yn dangos tua 3000 o ffilmiau a darllediadau byw yn flynyddol. Mae’r Mwldan yn lleoliad cynhyrchu o bwys, sy’n gyfrifol am gydweithrediadau rhyngwladol fel Catrin Finch a Seckou Keita, ac mae hefyd yn cynhyrchu Digwyddiadau Haf Castell Aberteifi mewn partneriaeth â Chastell Aberteifi. Yn 2017, cychwynnodd y Mwldan y label recordio bendigedig mewn partneriaeth â chynyrchiadau cerddorol ARC, gan weithredu model 360 gradd o reoli artistiaid, cynrychioli, cynhyrchu, rhyddhau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. Mae gan y sefydliad, sy’n elusen a menter gymdeithasol gofrestredig nid-er-elw, drosiant blynyddol o £1.7 miliwn (cyn Covid) ac mae'n cyflogi tîm o 24 aelod staff.

www.mwldan.co.uk

@TheatrMwldan

 

Triongl

Cwmni cynhyrchu teledu a ffilm yw Triongl a sefydlwyd yn 2017 gan Nora Ostler ac Alec Spiteri gyda Gethin Scourfield yn ymuno yn 2018. Mae'r tri yn gynhyrchwyr profiadol gyda hanes o gynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel, gwobrwyedig. Byddant yn dogfennu ‘Other Voices/Lleisiau Eraill’ ar gyfer rhaglen arbennig awr o hyd i’w darlledu nes ymlaen ar S4C ac RTÉ.

 

www.triongl.cymru

@triongl_tv