Gwobr Jane Phillips
Galwad Agored am Weithiau ar Gerdyn Post
Enillion o werthu’r gwaith i fynd tuag at gefnogi parhad Gwobr Jane Phillips.
---
Arddangosfa dros dro
Dyddiad: 25 Hydref 2025
Lleoliad: Oriel Mission
Dyddiad Cau derbyn gwaith: Dydd Llun 20fed Hydref 2025
---
Helpwch i gefnogi parhad Gwobr Jane Phillips drwy gyfrannu gweithiau ar gerdyn post.
Mae Gwobr Jane Phillips / Oriel Mission yn chwilio am artistiaid a gwneuthurwyr i gyfrannu gwaith ar gardiau post i'w cynnwys mewn arddangosfa dros dro yn Oriel Mission. Helpwch i gefnogi parhad Gwobr Jane Phillips drwy gyfrannu darn o waith ar gerdyn post - gall fod ar unrhyw thema neu o unrhyw ddeunydd, y cyfan rydyn ni’n ei ofyn yw ei bod yn briodol ei ddangos mewn oriel sy'n addas i deuluoedd.
---
Am Gwobr Jane Phillips:
Mae Gwobr Jane Phillips er cof am Jane Phillips (1957 - 2011) Cyfarwyddwr cyntaf Oriel Mission; mae wedi ei bwriadu i fod yn waddol i angerdd Jane am fentora a meithrin talent, gan roi cefnogaeth gyson ar draws y Celfyddydau Gweledol a Chymhwysol i artistiaid newydd a’r rheini sydd ar ddechrau eu gyrfa.
---
Manylion Arddangosfa:
Bydd yr arddangosfa dros dro yn cael ei chynnal yn ein prif fan arddangos, yn ystod yr arddangosfa (Ail)ddarganfod fi.
Bydd pob cerdyn post yn aros yn ddienw nes iddynt gael eu prynu.
Bydd unrhyw ddarnau sy'n weddill yn cael eu hychwanegu at missionshop.co.uk/janephillipsaward.com i'w gwerthu yn y dyfodol (yn ddibynnol ar ganiatad yr artist)
Bydd cardiau post yn cael eu grwpio'n 4 categori - £5 / £10 / £20 / £50.
Elw'n mynd tuag at Wobr Jane Phillips.
---
Sut i gymryd rhan:
1. Darllenwch y Telerau ac Amodau
2. Cwblhewch y ffurflen ‘Gweithiau ar Gerdyn Post’ sydd ar gael yma: https://forms.gle/douUDy7cyfzpDMRq6
3: Paratowch eich gwaith:
-
Rhaid i’r gwaith ffitio maint cerdyn post safonol: Tua 10 × 15 cm / 4 × 6 modfedd
-
Croesewir unrhyw ddeunydd neu thema, ond rhaid iddo fod yn briodol ei ddangos mewn oriel sy'n addas i deuluoedd.
4. Anfonwch eich cerdyn post, mewn amlen wedi'i selio, at:
Gwobr Jane Phillips
Oriel Mission
Gloucester Place
Ardal Forwrol
Abertawe
SA1 1TY
Rhowch y manylion isod ar gefn eich cerdyn post:
-
Eich enw
-
Teitl y gwaith
-
Dyddiad creu
Bydd yr holl waith yn cael ei arddangos yn ddienw - dim ond pan fydd gwaith yn cael ei werthu y bydd y prynwr yn cael cerdyn artist gyda'ch datganiad a'ch dolenni marchnata.
---
I ddarganfod mwy am Wobr Jane Phillips: janephillipsaward.com
Am unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: info@missiongallery.co.uk