Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau: 12pm, 22 Hydref 2025
Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn gwahodd ceisiadau gan artistiaid anabl, b/Byddar a niwrowahanol o bob cwr o Gymru ar gyfer ein harddangosfa deithiol genedlaethol sydd ar y gweill: Effaith
Bydd y prosiect uchelgeisiol hwn yn arddangos celf weledol bwerus ac arloesol gan artistiaid anabl mewn pum lleoliad celfyddydol blaenllaw ledled Cymru, rhwng mis Chwefror 2026 a mis Mawrth 2027.
Gallwch ffeindio gwybodaeth Hawdd i Ddeall ac Iaith Arwyddion Prydain yma.
Yr Arddangosfa:
Bydd Effaith yn archwilio themâu natur, tirwedd a chyfiawnder hinsawdd o safbwynt anabledd. Mae'r arddangosfa'n cynnig cyfle i gynulleidfaoedd ledled Cymru gael gweld safbwyntiau pobl anabl ar un o faterion mwyaf brys ein hoes.
Rydym yn chwilio am waith ar unrhyw ffurf ar gelfyddyd weledol, gan gynnwys (ond nid y rhain yn unig):
paentiad, lluniad, cerflun, delwedd symudol, ffotograffiaeth, cyfryngau cymysg, sain, digidol a gosodwaith.
Lleoliadau’r Arddangosfa Deithiol:
Bydd yr arddangosfa'n teithio i’r lleoliadau canlynol:
● Galeri, Caernarfon
● Tŷ Pawb, Wrecsam
● g39, Caerdydd
● Glan yr Afon, Casnewydd
● Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Cynhelir gweithdai cyhoeddus o dan arweiniad yr artistiaid sy’n arddangos ym mhob lleoliad hefyd
Pwy all ymgeisio:
Rydym yn croesawu ceisiadau gan:
● Artistiaid anabl, b/Byddar a/neu niwrowahanol yng Nghymru
● Artistiaid anabl, b/Byddar a/neu niwrowahanol o fannau eraill yn y DU sydd â chysylltiad cryf â Chymru
● Artistiaid unigol, cyfunol neu grwpiau cydweithredol
Rydym yn annog ceisiadau'n arbennig gan y rheini sy'n wynebu nifer o rwystrau rhag cymryd rhan, gan gynnwys artistiaid o gymunedau sy'n cael eu diffinio ar sail hil, artistiaid LHDTCRhA+, a'r rheini sydd â haenau o hunaniaeth sy’n plethu drwy’i gilydd.
Rhaid i chi fod yn aelod o Gelfyddydau Anabledd Cymru i wneud cais.
Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim i bob person sy’n ystyried ei hun yn anabl, yn f/Fyddar neu’n niwrowahanol yng Nghymru.
Ymunwch â Chelfyddydau Anabledd Cymru yma → Aelodaeth| Celfyddydau Anabledd Cymru
Am beth rydym yn chwilio:
Mae gennym ddiddordeb yn y canlynol:
● Gwaith sy'n barod i’w arddangos (wedi'i fframio neu ei fformatio i'w arddangos yn gyhoeddus)
● Gwaith sy'n ymateb i thema Effaith - natur neu anabledd a chyfiawnder hinsawdd
● Gwaith y gellir ei gludo a'i arddangos yn ddiogel ar draws nifer o leoliadau
Cymorth i Artistiaid a Ddewisir
Bydd y canlynol yn berthnasol i'r artistiaid a ddewisir ar gyfer yr arddangosfa:
● Mentora a chefnogaeth guradurol
● Telir costau cludo a gosod yn llawn
● Cymorth mynediad (rhowch amlinelliad o'ch gofynion yn eich cais)
● Cyhoeddusrwydd, dogfennu a hyrwyddo eich gwaith
Sut i gyflwyno
Cyflwynwch eich cais drwy https://dacymru.fillout.com/2025exhibition erbyn 12 hanner dydd ar 22 Hydref 2025.
Rydym yn derbyn ceisiadau ysgrifenedig, sain neu fideo.
Dylai eich cais gynnwys:
● Datganiad byr am yr artist (dim mwy na 200 gair)
● Hyd at 3 delwedd neu ffeil cyfryngau o'r gwaith yr hoffech ei arddangos
● Dogfen gofynion mynediad neu amlinelliad byr o unrhyw ofynion mynediad
● Eich manylion cyswllt ac unrhyw ddolenni perthnasol (gwefan, cyfryngau cymdeithasol)
Os oes angen i chi wneud cais mewn ffordd arall, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at post@disabilityarts.cymru
Panel Dethol
Bydd y gwaith celf yn cael ei ddewis gan:
● Dr Kate Brehme, curadur celfyddydau anabledd rhyngwladol (Berlinklusion)
● Bethany Handley, awdur ac ymgyrchydd dros gyfiawnder hinsawdd anabledd
● Arty Jen-Jo, artist a chyn enillydd Gwobr Gelf Celfyddydau Anabledd Cymru
Amserlen
● Dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno cais: 22 Hydref 2025
● Rhoi gwybod i'r artistiaid: Tachwedd 2025
● Lansio’r arddangosfa: Chwefror 2026
● Cau’r arddangosfa: Mawrth 2027
Comisiynau
Bydd dau ddarn o waith ychwanegol a gomisiynwyd - gyda chefnogaeth Amgueddfa Cymru a Chorsydd Caron, Môn - hefyd yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfa.
I wneud cais am y cyfleoedd hyn, tarwch olwg ar yr hysbysebion isod:
● Comisiwn mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru
● Comisiwn mewn partneriaeth â Chorsydd Calon Môn
Diolch o galon i Gyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Chorsydd Calon Môn.