Gadewch i ni Greu Celf ym mis Chwefror 2025!
Rydyn ni’n falch iawn i gyhoeddi lansio Gadewch i ni Greu Celf 2025 sydd ar agor ac yn derbyn cofrestriadau.
Yn ei drydedd flwyddyn, bydd ymgyrch Gadewch i ni Greu Celf yn canolbwyntio ar ddathlu gweithgarwch cyfranogol sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth newydd o wneuthurwyr newid creadigol. Mae’r ymgyrch yn gwahodd sefydliadau ac unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau celf weledol rhwng Dydd Sadwrn 1 a Dydd Gwener 28 Chwefror 2025.
Mae Gadewch i ni Greu Celf yn dangos sut mae ymgysylltu â chelf yn creu arweinwyr ifanc. Drwy gyfleoedd i gyd-ddylunio, cydweithio ac arwain wrth ymgysylltu â chelf mae plant a phobl ifanc yn dysgu sgiliau ac yn ennyn hyder i fod yn wneuthurwyr newid y dyfodol.
Drwy gyfres o adnoddau a chyfleoedd rhannu, bydd Gadewch i ni Greu Celf 2025 yn cefnogi sefydliadau ac artistiaid i gyflwyno gweithgareddau celf creadigol ac uchelgeisiol i blant a phobl ifanc a gyda phlant a phobl ifanc. Pa un a ydych chi’n artist, yn addysgwr oriel, yn athro neu’n berson ifanc creadigol, gallwch ymuno â Gadewch i ni Greu Celf.
Mae bwrsariaethau creadigol ar gael i’r rheini sy’n cofrestru gweithgaredd erbyn 2 Rhagfyr 2024, a bydd y rhain yn canolbwyntio ar gefnogi ymgysylltu celfyddydol mewn ardaloedd blaenoriaeth sy’n ymateb i thema’r ymgyrch - grymuso ac ysbrydoli pobl ifanc drwy gyfleoedd a gaiff eu cyd-greu neu eu harwain gan bobl ifanc.
Drwy ddod at ein gilydd, gallwn godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effaith y celfyddydau gweledol a dathlu ehangder ac amrywiaeth cyfoethog y gweithgarwch sy’n digwydd ledled y wlad.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn Gadewch i ni Greu Celf ewch i’r wefan: www.letscreateart.org.uk
Engage:
Engage yw’r elusen arweiniol ar gyfer hyrwyddo ymgysylltu a chyfranogi yn y celfyddydau gweledol. Drwy eiriolaeth, ymchwil a hyfforddiant rydym ni’n helpu i sicrhau ansawdd, cynwysoldeb, a pherthnasedd cyfleoedd i ymgysylltu a chyfranogi ledled y DU. Rydym ni’n sefydliad ar draws y DU gyda gweithgareddau yng Nghymru a’r Alban yn cael eu harwain drwy Engage Cymru ac Engage Scotland. Sefydlwyd Engage fel sefydliad aelodaeth yn 1989 ac ar hyn o bryd mae ganddo aelodaeth o dros 700 o fuddiolwyr.
Cefnogir Engage gan Arts Council England a Creative Scotland.