Mae Theatr y Sherman yng Nghaerdydd heddiw (Dydd Mercher 11 Mehefin) wedi cyhoeddi taw Francesca Goodridge fydd ei Gyfarwyddwr Artistig nesaf.

Mae Francesca yn gyfarwyddwr theatr Gymreig o Abertawe. Roedd hi’n Gyfarwyddwr Artistig Cyswllt Theatr Clwyd a derbyniodd yr Hyfforddeiaeth Carne i Gyfarwyddwyr cyntaf yng Nghymru. Cyn hynny, mi fu’n gyfarwyddwr dan hyfforddiant yn Theatr The Other Room, Caerdydd, a chafodd ei dewis yn un o'r Artistiaid Datblygu yn yr Royal Shakespeare Company.

Ymhlith credydau cyfarwyddo Francesca mae Nye (National Theatre / Canolfan Mileniwm Cymru) (cyd-gyfarwyddwr yr adfywiad); Rope  Sleeping Beauty: A Rock 'n' Roll Panto (wedi'i enwebu am y Cynhyrchiad Gorau yng Ngwobrau Panto 2024), A Pretty Sh*tty Love, Truth or Dare ac Once Upon a Christmas (Theatr Clwyd); Rapunzel: A Rock 'n' Roll Panto (Liverpool Everyman, wedi'i enwebu am y Cynhyrchiad Gorau yng Ngwobrau Panto 2025); Sorter (Grand Ambition); Constellations (RWCM&D); Faustus: That Damned Woman (Theatr Storyhouse); a The Future (Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru).

Yn ystod y cyfnod clo, cyd-sefydlodd Francesca The Far Away Plays; cwmni darllen dramâu ar-lein sy'n hyrwyddo artistiaid Cymreig a rhai sydd wedi'u lleoli yng Nghymru gyda'r nod o ddarganfod dramâu Cymreig newydd ac ail-ddychmygu clasuron Cymreig.

Mae Francesca yn gyfarwyddwr gwadd ac yn ddarlithydd ymweld yn y Liverpool Institute for Performing Arts (LIPA), Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Academi Celfyddydau Theatr Mountview a Chonservatoire Leeds. Hyfforddodd yng Nghwrs Cyfarwyddwyr y National Theatre a Sefydliad Celfyddydau Perfformio Lerpwl lle dyfarnwyd Gwobr Ensemble am Berfformio iddi.

Bydd Francesca yn dechrau yn ei swydd newydd yn Theatr y Sherman ym mis Ionawr 2026, gan ymuno â'r Prif Weithredwr Julia Barry yn y tîm arweinyddiaeth.

Dywedodd Julia: “Mae Francesca yn dod atom wedi’i harfogi ag amrywiaeth eang o syniadau dychmygus, ac mae’r posibilrwydd o weithio ochr yn ochr â hi i wireddu’r syniadau hynny a’u rhannu gyda’n cynulleidfaoedd yn hynod gyffrous.

“Mae Theatr y Sherman wedi cael blwyddyn arbennig o dda; mae nifer ein cynulleidfaoedd ar eu huchaf ers degawdau, rydym yn parhau i adrodd straeon rhyfeddol o dde Cymru sy’n siarad â’r byd ac yn gweithio gydag artistiaid o Gymru ac artistiaid sy’n byw yng Nghymru o gynfas eang. Rydym wedi tyfu i fod yn adnodd diwylliannol a dinesig sylweddol ac rydym yn falch iawn o’n rôl yn ecoleg greadigol Cymru; mae gweledigaeth Francesca yn berffaith i ni.”

Dywedodd Francesca: “Rwyf wrth fy modd ac yn teimlo’n anrhydeddus iawn i gael fy mhenodi’n Gyfarwyddwr Artistig yn Theatr y Sherman. Mae tyfu i fyny yn ne Cymru wedi llunio nid yn unig y gwaith rwy’n ei wneud, ond hefyd sut rwyf am ei wneud. Mae ein diwylliant yn gynhenid gydweithredol a chreadigol, a dyna sut rwyf am arwain y Sherman.

“Fy uchelgais yw adeiladu ar safle Theatr y Sherman fel y grym hanfodol, arloesol ydyw, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU ac yn fyd-eang, gan greu theatr eithriadol yn Saesneg a Chymraeg gan weithwyr proffesiynol a chyda’r gymuned. Mae cael cymryd yr awenau gan Joe Murphy yn yr eiliad yma mewn hanes a chael adeiladu ar yr etifeddiaeth yna yn rhodd go iawn.”

“Alla i ddim aros i weithio ochr yn ochr â Julia, y bwrdd a thîm anhygoel Sherman i lunio’r dyfodol hwnnw gyda chreadigrwydd, gofal a balchder, oherwydd mae’n fraint enfawr cael gwneud theatr i ennill bywoliaeth a byddaf yn pinsio fy hun bob dydd mai dyma fy swydd i.”

Dywedodd Ceri Davies, Cadeirydd bwrdd Theatr y Sherman: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu Francesca; fe wnaeth hi syfrdanu’r panel cyfweld gyda’i hangerdd, ei gweledigaeth a’i hymrwymiad i adrodd straeon beiddgar, gan ei gwneud hi’n ddewis perffaith ar gyfer y bennod newydd gyffrous hon. Edrychwn ymlaen at weld pa waith ysbrydoledig y mae hi’n ei ddwyn i’n llwyfannau ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.”

Ymhlith y prosiectau sy'n creu bwrlwm yn Theatr y Sherman yr haf hwn mae drama newydd Theatr Taking Flight, Martha, mewn cydweithrediad â’r Sherman sy'n cael ei pherfformio yn Iaith Arwyddion Prydain; cynhyrchiad Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru o Sweeney ToddRelay gan Leila Navabi, sioe gomedi gerddorol pync newydd y bydd hi wedyn yn ei chymryd i Ŵyl Ymylol Caeredin gyda chefnogaeth The Pleasance a Theatr y Sherman; a Scene/Change Theatr JHOOM, y rhaglen gyntaf o'i math sy'n dathlu gwneuthurwyr theatr o dras De Asiaidd yng Nghymru ac sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Yn y cyfamser mae Housemates, cyd-gynhyrchiad llwyddiannus Theatr y Sherman gyda Hijinx, yn parhau â'i daith o amgylch Cymru, a bydd dau ensemble an-broffesiynol y cwmni yn cyflwyno sioe haf lawn; bydd Sherman Players yn perfformio Quiz gan James Graham a bydd Theatr Ieuenctid y Sherman yn llwyfannu The Haunting of Sherman House gan Lowri Morgan a Davina Moss.